Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iflais Rbyddid. Cyf. VII.] IONAWB, 1909. [Rhif 10. Y Parch. Daniel Hughes, Llanelli. Yn y rhifyn hwn, hyfrydwch gennym gyflwyno i'n darllenwyr ddarlun rhagorol o'r Parch. Daniel Hughes. Pa fath ŵr yw efe, a pha fath yw ei ddoniau disglair, gwyddom ni yn Lerpwl heb lythyr canmoliaeth gan neb. Ond cymerwn y cyfleustra presennol i ddodi ar gôf a chadw rai o ffeithiau hynotaf ei fywyd. Ganwyd ef dair-blynedd-ar-ddeg-ar-hugain yn ol, ym mhentref bychan Mwnglawdd (Minera), ger llaw tref Gwrecsam. Hannai o deulu hollol Gymreig o waed, calon, ac iaith ; ac yn ei ieuenctid dygwyd ef i fyny yn aelod o Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd ei dad yn flaenor gyda'r enwad am ddeng-mlynedd-ar- hugain. Ond o'i febyd yr oedd Daniel yn fachgen arferai ddarllen a meddwl, a danghosodd er yn fore gryn lawer o anibyniaeth barn, a gonestrwydd cydwybod. Ac o ganlyniad, wrth ddarllen ei Feibl drosto ei hunan, penderfynodd mai ei ddyledswydd ydoedd gadael ei hên enwad a bwrw ei goelbren gyda'r Bedyddwyr. Gwnaeth hynny pan oddeutu dwy-ar- bymtheg oed. Ym more oes, bu am rai blynyddoedd yn gweithio yn y gwaith glô, ac er côf am y dyddiau hynny ceidw y Davy lamp a ddefnyddiai mewn lle amlwg yn ei dý hyd y dydd hwn. Ond yr oedd barddoni a phregethu yn ei esgyrn o grôth ei fam. Enillodd wobrau am farddoni pan yn gweithio yn y pwll glô. Yr oedd hên gapel adfeiliedig yn agos i'w gartref, a gwelwyd ef droion, meddir, ac efe eto yn blentyn, yn dringo drwy ffenestr yr hên gapel, ac ar ol esgyn i'r pulpud, yn pregethu'n hwyliog i'r seti gweigion. Y plentyn yw tad y dyn. Gwnaeth y goreu o'i fanteision bob cam o'r ffordd. Ac er mwyn dysgu'r iaith Saesneg, aeth oddi cartref ac ymsefydlodd am dymor ym Manceinion. A llwyddodd yn ei ymgais y tu hwnt i nemawr Gymro y gwyddom am dano. Yn sicr, ychydig iawn ydyw nifer y Cymry, a fagwyd ar aelwydydd hollol Gymreig, eydd yn llwyddo i feistroli y Saesneg fel y gwnaed ganddo ef. Llefara'r iaith mor bur, mor rymus, a dilediaeth, a phe