Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iflais Rbyddid. Cyî. VII.] RHAGFYR, 1908. [Rhiî 9. Credo Ansígladwy. Pregeth gan y Parch. W. 0. Jones, B.A. Rhufeiniaid i. 16 : " Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid galiu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu ; i'r Iddew yn gyntaf, a hefyd i'r Groegwr." Pan yn dweyd y geiriau hyn, 'roedd yr Apostol Paul erioed heb weled Rhufain. Wedi hynny, ymhen dwy neu dair blynedd, y cyrhaeddodd gyntaf i'r ddinas. Ond yr oedd yno Eglwys i Grist fiynyddoedd lawer yn gynaraeh, ac nis gwyddom gan bwy na pha bryd y sefydlwyd hi i ddechreu. Hwyrach mai gan ryw ddisgyblion anenwog a breswylient o fewn y ddinas. Arferai lliaws o Iddewon Rhufain dalu ymweliadau mynnych â Jerusalem. Yr oedd rhai o honynt, feallai, wedi gweled a chlywed yr Arglwydd Iesu Ei Hunan, a rhai yn bresennol ar ddydd mawr y Pentecost. Ac os felly, pa ryfedd iddynt, ar ol myned adref, ddweyd yr hanes i ereill, a chychwyn Eglwys yn Rhufain ? Fodd bynnag um hynny, yr oedd yn Rhufain Egìwys gref a blodeuog ymhell cyn i St. Paul ymweled â'r lle. Ond gwyddai law7er am dani, a theimlai y dyddordeb dyfnaf yn ei llwyddiant. Gwyddai beth oedd ei chyfiwr ysbrydol, a phwy oedd ei dynion goreu. Yn ol y bennod olaf o'r Epistol, yr oedd yr Apostol yn adnabod lliaws mawr o'r aelodau, oblegid y mae'n eu cyfarch mewn modd cyfeillgar, ac wrth eu henwau personol. Y mae'n diolch iddynt am gymwynasau, ac yn nodi allan neilltuolion eu cymeriadau. Dichon iddo eu cyfarfod mewn mannau ereill, tra ar ei deithiau cenhadol, a dyfod i wybod, drwyddynt hwy, gryn lawer o helynt yr Eglwys yn Rhufain. Ac ers talm o amser chwenychai'n fawr am fyned yno atynt. Ebai, "Hiraeth sydd arnaf er ys llawer o fiynyddoedd am ddyfod atoch chwi." Bwriadodd fyned, fwy nag unwaith, ond fe'i lluddiwyd gan alwadau ereill. Ond o'r diwedd agorodd y