Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

k!aîs Rbyddid. Cyî. VII.] TACHWEDD, 1908. [Hhiî 8. Marc yr Efengylydd. \_Par1iâd.~\ GARTREF, yn nhỳ ei fam Mair, y gwelsom Marc ddiweddaf. Gwr ieuanc ydoedd, heb eto ddechreu ar ei waith cenhadol ; gwr gwylaidd, ofnus, ac, fel yr ymddengys, lled ansefydlog ei feddwl. Os gwir y dyfaliadau a wnaethom, yr oedd Marc yn adnabod yr Iesu cyn Ei groeshoeliad, ac yn ddisgybl cuddiedig Iddo. Yn ei dŷ ef yr oedd yr oruch-ystafell, lle bu Crist a?i ddisgyblion yn bwyta'r Pasg, ac yn sefydlu y Swper olaf. Yr oedd yn bresennol yng ngardd Gethsemane, ac yn llygad-dyst o gusan y bradwr, ac o waith tyrfa'r gwaewffyn. Ac ar ol y gytiafan waedlyd ar le y Benglog, fe barhaodd Marc a'i fam i anwesu Ei goffadwriaeth ac i nawddogi Ei ddisgyblion galarus. 0 dan eu cronglwyd hwy, fe allai, yn yr un oruch- ystafell, yr oedd yr un-ar-ddeg a'r rhai otdd gyda hwynt ar noswaith yr adgyfodiad. " A hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gauad, lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi" (St. Ioan xx. 19). Ac yn yr un lle, ymhen yr wythnos, yr ymddanghosodd yr Iesu eilwaith, pryd yr argyhoeddwyd hyd yn oed Thomas o wirionedd Ei adgyfodiad. Ac o hynny allan adwaenid cartref Marc fel cartref yr Eglwys Gristionogol. Yno y bu " yr ugain a chant . . . . yn parhau yn gytun mewn gweddi ac ymbil " hyd oni chyflawnwyd addewid y Tad ar ddydd mawr y Pentecost. Ac am y deg neu ddeuddeng mlynedd nesaf, yr oedd ty Mair yn gyrchfan arferol caredigion yr Arglwydd. A mynych, yn ddiau, y byddai Marc ieuanc yn bresennol yn eu cyfarfodydd. Ac yno hefyd yr arferai yr Apostol Petr letya pan yn Jerusalem, ac mewn atebiad i gyfarfod gweddi a gynhaliwyd yno, yr anfonwyd angel i waredu'r Apostol o garchar, ac o ddwylaw llofruddiog y brenin Herod. Yr oedd Marc a'i fam mewn amgylchiadau cysurus, yn byw mewn ty mwy na'r cyffredin, ac yn meddu ar galonnau lletygar a haelfrydig.