Skip to main content

Irlais Rbyddid. Cyî. VII.] MEDI, 1908. [Rhiî 6. Prcgeth ar yr Iawn. GAN Y PARCH. W. O. JONES. Hebreaid ii. 10.—" Canys gweddus oedd Iddo Ef, o herwydd yr Hwn y mae pob peth, a thrwy yr Hwn y mae pob peth, wedi Iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau." YN y geiriau hyn y mae awdwr yr Epistol at yr Hebreaid yn dynesu at y cwestiwn mawr: Paham yr oedd yn rhaid i Grist ddioddef a marw ? Ysgrifennai at Hebreaid Cristionogol, ac iddynt hwy yn ddiamheuol, hwn ydoedd y cwestiwn anhawddaf o'r cwbl: Pa fodd i roddi cyfrif boddhaol am farwolaeth waradwyddus eu Harglwydd ? Gwrthodwyd Ef gan gorff y genedl fel eu Mesiah addawedig, a hynny, mewn rhan, o leiaf, o herwydd iselder Ei ddarostyngiad. Yn ystod dyddiau Ei gnawd, yr oedd tlodi, cyffredinedd, ac amharchusrwydd Ei deulu, Ei gartref, a'i gyfeillion, yn wrth-ddadleuon yn Ei erbyn. "Onid Hwn yw mab y saer?" gofynent. " Onid Mair yw Ei fam Ef ? Ac onid yw Ei frodyr a'i chwiorydd Ef gyda ni ? A ddichon dim da ddyfod o Nazareth ? Pa fodd y medr Hwn ddysgeidiaeth, ac Yntau heb ddysgu ?" Dyna ydoedd rhai o'r cwestiynau a ofynid ganddynt, ac o blegid y pethau hyn, meddir, "hwy a rwystrwyd ynddo Ef." Edrychent hwy arno fel twyllwr yn honni Ei hunan yr hyn nad ydoedd. Ac yn y diwedd collfarnwyd Ef, gan benaeth- iaid y genedl, i farw fel drwg-weithredwr yng nghrog ar bren. Ac o hynny allan yr oedd yn felltigedig yn eu golwg ; cyfrifent Ef y diystyraf o'r gwŷr, ac wedi Ei daro a'i faeddu gan Dduw. I ni, yn awr, ymddengys anghrediniaeth y genedl yn ddi- esgus ac anesboniadwy. Paham yr oeddynt hwy, yn anad neb, yn tramgwyddo wrtho o herwydd Ei ddioddefiadau? Onid oedd eu proffwydi, ers oesau lawer, yn rhag-fynegi Ei