Skip to main content

lílais Rbyddid Cyî. VII.] AWST, 1908. [Rhiî 5. Yr Iawn yn Niwinyddiaeth y Dyfodol. Flynyddobdd yn ol, bellach, clywais y diweddar Dr. Thomas Charles Edwards yn pregethu ar yr Iawn, ac yng nghwrs ei sylwadau crybwyllodd am ryw awdwr—nid. wyf yn cofio pwy ydoedd—yr hwn a ymffrostiai ddarfod iddo ef settlo cwestiwn yr Iawn cyn bod yn bump-ar-hugain oed. Coffa da fel yr oedd y Prif-athraw trylen yn ysgornio y fath syniad. A thywalltai gawodydd o wawdiaeth ddeifiol ar ryw ddosbarth o laslanciau, y rhai, meddai, a gymerent arnynt ddeall y dirgelion oll, a dad- ddrysu'n hwylus broblemau mawrion yr oesoedd. Anioddefol iddo ef, a gwrthun i'r eithaf, ydoedd gwaith bechgynos dibrofiad yn llefaru'n uchel ac oraclaidd ar bynciau ag y byddai yr hên gewri gynt yn gwyleiddio wrth ddynesu i'w cyffiniau. Ac yn sicr ddiymwad y mae mwy na digon o'r un gwehelyth i'w clywed yn bogsachu eto. Traethant ar yr Iawn fel pe fai fater i'w ddeall dan redeg. Sylw doniol, megis ar ysgawt, sydd yn ddigon i chwalu pob anhawster. Ond druain o honynt! Ysglefrio y maent dros wyneb y dirgelion, heb erioed gymeryd amser na phoen i edrych i lawr i'r dyfnderoedd oddi tanodd. Dichon hefyd fod ambell ddiwinydd gwybodus yn edrych ar ysgrifennydd y sylwadau hyn fel un o'r dosbarth pen-chwiban uchod. Ònd mewn hunan-amddiffyniad gallaf ddadleu hyn-yma, a dweyd y lleiaf, yr wyf yn gweled peth o'r anhawsterau ; a gwn yn rhy dda, er gwneud fy ngoreu, nas gallaf ond rhydio ychydig gyda glannau y moroedd di-waelod o ddirgelion sydd ym marwolaeth y groes. Credaf, er hynny, y rhaid i bob dyn deallus wynebu cwestiynau yr oes drosto ei hun, a bod yn barod, pan y'i gelwir, i roddi rheswm am y gobaith sydd ynddo. Dadleuir, mae'n wir, gan rai dynion rhagorol, mai doethach ydyw peidio ymboeni dim yn rhagor uwchben athrawiaeth yr Iawn. Gwell, meddant hwy, ydyw gadael pob damcanìaeth o'r neilltu, a myned ymlaen i bregethu y ffaifh yn syml, heb geisio ei hesbonio, sef " fod Duw yng Nghrist yn cymodi y byd âg Ef Ei Hun heb gyfrif iddynt eu pechodau." Dyna'r cyngor a roddir