Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

líîais Rbyddid. Cyf. VII.] GORFFENNAF, 1908. [Rhiî 4. "Y Ddiwinyddíacth Ncwydd"— Ei Dysgcidiacth ar yr Iawn. Yn yr ysgrif bresennol ceisiaf grynhoi, fyrred ag y gallaf ddysgeidiaeth y diwinyddion newydd parthed yr Iawn a wnaed gan yr Iesu. Ond nid gorchwyl hawdd ydyw gwneud hynny, oblegid dywedir wrthyin, gan eu hathrawon blaenaf, nad ydynt hwy yn cydnabod neb fel awdwr safonol ar y matar, nac yn proffesu gallu cyd-weled yn hollol â'u gilydd. Eu motto hwy, yn anad neb, ydyw : " Rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llaí'ar." Eto, er hynny, nodweddir eu dysgeidiaeth gan fath o unrhywiaeth amlwg. Teithiant ar yr un Uinellau, nid i gyd cyn belled a'u gilydd, ond y maent oll â'u gwynebau i'r un cyfeiriad. Y golygiad mewnol (subjective) am yr Iawn yn unig a dderbynir ganddynt ; nis gwn am gymaint ag un a greda mewn Iawn gwrthrychol (objectiue.) Soniaf yn awr, bid sicr, am y diwinyddion newydd par excellence ; gwŷr megis y Parchedigion R. J. Campbell, Rhondda Williams, Bruce-Wallace, G. T. Sadler, a'r Doctoriaid Warschauer, Hunter, Crapsey, Anderson, &c. Ys dywedais o'r blaen, y mwyaf cymedrol o honynt ydyw Dr. Warschauer, ac yn yr Ysgol Hâf a gynhaliwyd ganddynt yn Penmaenmawr, ddechreu Awst y llynedd, i'w ran ef y disgyn- nodd i draethu ar yr Iawn. Gwnai hynny yng nghlyw nifer dda o'i gyd-arweinwyr, a chan hawlio eu cydsyniad unfrydol. Ac meddai : u We have done with the historical Fall, with the total depravity of man, with imputed sin and iinputed righteousness, with vicarious punishment, with salvation by faith apart from works, with the whole hazardous transaction whereby the sinless One is made sin, while the sinner is ransomed, has his debt paid out of the sinless One's infinite balance of righteousness." Ac wedi ysgafnhau cymaint ar eu llestr, pa ryfedd iddo ddechreu ymholi : " Have we not, someone will ask, by this time done away with the Atonement altogether ? or have we anything left at all ? " (Christian Commonwealth, August 15,1907.)