Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lílais Rbyddid Cyf. VII.] MEHEFIN, 1908. [Rhif 3. "Y Ddiwinyddiaeth Newydd" ag Athrawiaeth yr lawn. Yn yr ysgrif bresennol addewais fwrw bras-olwg dros ddaliadau y diwinyddion newydd 0 berthynas i farwolaeth ein Gwaredwr. Diogel yw dweyd, yn gyntaf oll, fod y naeaol yn eu dysgeidiaeth yn llawer cryfach na'r cadarnhaol. Haws yw beirniadu yr Hên Ddiwinyddiaeth, a dangos ei gwendidau hi, nag adeiladu athrawiaeth well i'w gosod yn ei lle. Yn wir, addeíìr, gan lu mawr o geidwaid ffyddlonaf yr athrawiaeth Galfinaidd, fod rhai pethau yn ei nodweddu nas gellir mwyach yn gydwybodol eu hamddiffyn. A pha ryfedd ychwaith, o ran hynny ? Wedi cymaint 0 gynnydd mewn athroniaeth a gwyddoniaeth, mewn moeseg a beirniadaeth, ofer a fuasai disgwyl i'r hên olygiadau am yr Iawn, mwy nag am bynciau ereill haws eu deall, aros drwy y cwbl yn sefydlog a digyfnewid. Ac er dangos rhai o'r anhawsterau a deimlir, gan gylch eang o feddylwyr, gosodaf yma ddyfyniad pur • faith o un o lyfrau Dr. Warschauer, sef The New Evangel. Fel y crybwyllais o'r blaen, un o athrawon mwyaf dylanwadol y Ddiwinyddiaeth Newydd yw efe ; a chredaf hefyd, un o'i hathrawon tecaf a mwyaf dysgedig. Dyry restr o'r gwrth- wynebiadau a goleddir gan ddosbarth lliosog a chynyddol o ddiwinyddion yn erbyn y syniadau cyffredinam Iawn gwrthrychol. Ceisiaf gyfìeithu y rhestr i'r Gymraeg rhag ofn bod rhai o'n darllenwyr yn diflasu ar ormod 0 Saesneg. Ond ni amcanaf at ddilyn ei frawddegau yn llythrennol fanwl. Yn hytrach, cymeraf fy rhycldid i rwydd-gyfieithu, gan grynhoi a thalfyrru cryn lawer ar ei sylwadau. " Pa fodd y gallwn gredu yn yr Iawn," gofynna," fel meddyg- iniaeth i'r clwyfau a achoswyd drwy gwymp Adda, tra y gwyddom yn eithaf da na bu yr un cwymp, ac na bu yr un Adda ; tra y gwyddom nad oes yr un sail hanesyddol i'r penodau cyntaf o Genesis, a'u bod yn gwbl groes i ddysgeidiaeth sicraf y gwyddonau ? Nid yw yr Iawn, yn ol fel y dysgir, ond dyfais i ddadwneud canlyniadau y cwymp—yr hyn na