Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ai$ Cyf. VII.] EBRILL, 1908. [Rhif 1 "Y Ddiwinyddiaeth Newydd." Y Cenhedltad Gwyrthiol yng Ngoleüni y Parch. D. Adams, B.A. Dyry Mr. Adams, yn ei gyfrol, ymdriniaeth faith a llafurus i'r mater hwn. "Edrycha arno fel un o ddyrus-bynciau anhawddaf ein ffydd. Rhannâ ei lyfr yn ddeuddeg pennod, ae allan o'r deuddeg rhoddir dwy gyfan, a rhan o drydedd, i draethu ar y mater hwn. IIwn ydyw yr unig destyn ag y rhoddir mwy nag un bennod i'w drafod. 0 dan y penawd hwn, yn ẃir, yr ymdrÌDÌa efö â chwestiynau mawrion yr Ymgnawdoliad a Pherson Crist. Ac ar y dechreu dywed : " Mae y pwnc hwn o EnedigaetÄ Wyrthiol yr Iesü yn un o'r cwestiynau trofäog, anorphen hynny, ydynt fel labyrinth, heb un llwybr adnabyddus allan o honynt i diriogaeth sicrwydd pendant. Y mae y sawl a ymdry lawer yn eu cudd-lwybrau cyfrin mewn perygl o fyned yn fwTy na haner gorphwyllog, am ei fod yn cwbì anobeithio gallu cyrhaedd sicrwydd diym- wad gyda golwg ar y cyfryw gwestiynau. Y mae dull cenhedliad yr Iesu yn fath o gwlwm cudd, ac anhawdd canfod fod unrhyw Alexander o gadfridog diwinyddol wedi llwyddo i'w dori â chleddyf gwirionedd sicr, heb son am ei ddatod i foddlonrwydd meddwl a chalon y byd Cristionogol" (65). Wedi rhagymadrodd fel hyn, naturiol ydyw disgwyl am ymdrin- iaeth afaelgar i ddilyn. Os ydym i farnu oddi wrth y gofod a roddir iddo, hwn, yng ngolwg yr awdwr, ydyw y pwwsicaf a'r anhawddaf o'r holl gwestiynau. Ond ai nid yw Mr. Adams yn gorliwio ei bwysfawredd ? O'm rhan fy hun, yr wyf wedi arfer edrych arno fel mater cymharol ddibwys. Anrhaetho- bwysicach, yn fy marn i, ydyw yr athrawiaethau am gynl hanfodiad Crist, a mawredd Ei Berson Dwyfol. Yn y Beibl, beth bynnag, ac yn niwinyddiaeth yr Eglwys, rhoddir i'r pethau