Skip to main content

Claìs RDpddid. Cyf. IV] IONAWR, 1906. [Rhif 10. Canu Cynulleidfaol [Gan "UN HOFF OHONO."] Yn y sylwadau a ganlyn nid yw'r ysgrifenydd am dorsythu fel petae wr o awdurdod ar y testyn uchod. Gwell ganddu'n hyt- rach gydnabod ar y dechreu nad yw erioed wedi enill urdd na theitl yn y wyddor gerddorol; nad oes neb hyd y gẃyr yn ei ystyried yn gymwys i feirniadu canu mewn nac Eisteddfod na chyfarfod cystadleuol; ac na chafodd yn ei oes gyi^yg ar y swydd o arwain y gân mewn côr na chynulleidfa. Fe ŵyr y dar- Uenydd deallus gan hyny faint o bwys i'w osod ar ffrwyth ei ysgrifell. Meddylia er hyny fod ganddo rywbeth i'w ddweyd ; enynodd tân, ac am hyny y Uefara. Ac fel esgusawd pellach, gall ddadleu ei fud yntau yn ganwr yn ol ei radd, ac yn ol y ddawn a rodded iddo. Melus odiaeth ganddo, fel y Salmydd gynt, ymuno â'r gynulleidfa, " a cherdded gyda hwy i dŷ Dduw mewn sain cân a moliant, fel tyrfa'n cadw gwyl." Os nad oes iddo lais i ganu unawd nes hoelio clustiau y lluoedd, medda yn tau ar delyn fach, ddirodres; a gŵyr pa ibdd i byncio'n weddol gywir odl a salm, neu emyn. Os na'i doniwyd â chlust deneu, feirniadol, ac â chwaeth fanyl-goeth y cerddor prufedig, y mae ganddo glust i fwynhau, ac nid yw heb wybod y gwahaniaeth rhwng canu a gwaeddi, a rhwng canu corawl a chanu cynull- eidfaol. Wrth wrando ar gôr diwylliedig yn datganu un o'r oratorios penigamp, syrthiodd lawer tro i ber-lesmeiriau gogoneddus o hyfryd ; ac wrth ymforio'n hwyliog yn nghwmni cynulleidfa o addolwyr drwy awelon maith a byw hen donau fel Moriali, Alexander, neu Abertawe, bu'n teimlo lawer pryd fel pe yn ngolwg y porthladdoedd hyfryd, ac yn anadlu peraroglau o erddi Paradwys. Ond heb yníÿdu ychwaneg drwy ganmawl ei hun, dymuna yr ysgrifenydd draethu ei olygiadau ar ddau neu dri o bwyntiau yn nglyn â chaniadaeth y cysegr. Na ofaled y darllenydd pwy