Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clais Rhpddid. Cyf IV] RHAGFYR,, 1905. [Rhif 9. PREGETH Gan y Parch. W. O. JONES. Esaiah xlii. 3—4.—" Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddÀffydd lin yn mygu: efe a ddwg allan farn at wirionedd, Ni phalla efe, ac ni ddigalona, hyd oni osodo farn ar y ddaear." EiN harfer ydyw esbonio y geiriau hyn fel prophwydoìiaeth am yr Arglwydd Iesu; ac y mae genym awdurdod y Testament Newydd dros wneud hyny. Dyfynir hwynt gan St. Matthew fel rhagfynegiad am dano Ef. Dichon, er hyny, fod gan Esaiah, pan yn eu llefaru, rhywun arall mewn golwg. Soniryn barhaus yn yr haner olaf o'i lyfr am ryw Berson mawr ac enwog, yr hwn a elwir ganddo yn Ẁas yr Arglwydd. A llawer o ddadleu a fu erioed o berthynas i'r cwestiwn, Pwy a feddylid gan Esaiah wrth was yr Arglwydd ? Ac anhawdd iawn ydyw ateb y cwestiwn i foddlonrwydd. Pe casglech at eu gilydd yr holl adnodau sydd yn son am y gwas, caech weled fod llawer ohonynt yn ymddangos yn annghyson â'u gilydd. Heblaw hyny, dywedir pethau am y gwas sydd yn annghywir, os nad yn gableddus, o'u cymhwyso at yr Arglwydd Iesu. Er engraipht, yn niwedd y bennod hon gofynir y cwestiynau hyn : " Pwy sydd ddall ond fy ngwas i ? neu fyddar fel fy nghenad a anfonais ? Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy." Yn sicr, nid yr Hwn a lwyr foddlonodd ei Dad yw y gwas a ddesgrifir fel yna. Y tebyg ydyw fod y syniad o was yr Arglwydd wedi tyfu drwy wahanol ystyron yn meddwl y prophwyd, wedi dadblygu'n raddol i fwy a mwy o eglurder. Daw yr enw i mewn am y tro cynbaf yn yr wythfed adnod o'r bennod o'rblaen. " Eithr ti, Israel, fy ngwasydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, hâd Abraham fy anwylyd. . . . Fy ngwas ydwyt ti; dewisais di, ac ni'th wrthodais." Nis gellir yn hawdd gamddeall y geiriau yma; wrth y gwas, mae'n amlwg, golygir y genedl Iuddewig; ac ym--