Skip to main content

Claìs Rftpddid. Cyf IV] HYDREF, 1905. [Rhif 7. PREGETH Gan y Parch. DANIEL HUGHES, Lerpwl. "PWY YW HON?" " Pwy yw hon sydd yn dyfod i fynu o'r anialwch megis colofnau mŵg, wedi ei phérarogli â mỳr, ac â thus, ac â phob powdr yr apotnecari ?"—Caniad Solomon iii. 6. Dymunwn ystyried yr hanes gyflwynir i ni yn Nghaniad Solo- mon fel, o leiaf, yn esiampl o'r cariad dwfn a thyner sydd rhwng Orist a'i Eglwys : y Priodfab Dwyfol a'r Briodasferch bur. Mae y Sulamees yn cael ei harddangos fel wedi myned i unigedd i ganu clod ei charwr; ond fel y mae yn canu, y mae fel pe yn swyno ei hun, nes cerdded bron yn anymwybodol allan o'i hunigedd, ac mae merched Jerusalem yn ei gweled, ac yn canu cydgan i'w hunawd; a rhan gyntaf y gydgan yw ein testyn. Dylem gofio fod yr Eglwys heddyw yn neshau at y Priodfab Dwyfol, fel y bydd hi yn cofio Ei harddwch; daw llawer penill â ni yn agos ato Ef, a gwaith molawd yw teneuo y llen sydd rhyngom a'i wyneb. Bydded i'r bobl ganoli eu hedrychiad ar Ei harddwch, ac, heb gynllun celfydd na dyfais gywrain, symud- ant i'w wyddfod Ef; ac adnabyddiaeth ohono Ef sydd fywyd, a'i gyffyrddiad Ef sydd iachâd. Os yw yr Eglwys am fod yn gref a safadwy, ac am amlygu ei harosiad yn y Cariad Dwyfol, a thrwy hyny fwynhau pleserau byd ysbrydol, rhaid iddi ddadblygu ei galluoedd cyfrin. Os nad oes dim o'r tu ol i foesau da a darpar- iadau masnachol y ddeuddyn mewn carwriaeth, dylid wylo dros- tynt. Felly yn achos Crist a'i Eglwys : tu ol i'r siarad, rhaid i'r serch ddyfnhau; tu ol i ddysgcidiaeth, rhaid bod addoliad; a rhaid fod banau ffydd yn ogoneddus yn ngoleuni plydd yr orsedd. " Dylid trefnu," ebai llawer. Yn ddi-os, fe ddylid; ond ni fetha calonau cariadlawn a threfnu, tra mae modd gwras-