Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clais Rbpddid. Cyf IV] AWST, 1905. [Rhif 5 Dynion Mawr, Pwy yw y dyn gwir fawr ? Afrifed ydyw yr atebion a roddwyd erioed. Wele eiddo un gwr oedd ei hunan yn un o'r cewri: " Wrth ddyn gwir í'awr golygaf un a wnaeth rhyw waith nas gallodd neb o'i flaen ei wneuthur; un a lwyddodd i dyrchafu syniadau dynion am yr hyn sydd yn bosibl; ac a eangodd ein rneddyliau am alluoedd y natur ddynol." Nodau rhai o'r mawrion ydyw eu doniau i weled pethau oedd yn guddiedig o'r blaen, ac i'w datguddio i eraill o'u hamgylch. Dangosir mawr- edd gan eraill drwy anturio ar ryw waith oedd yn ymddangos yn amhosibl, ac i'w gyflawni er gwaethaf pob anhawsderau. A llefaru yn gyffredinol, gellir rhanu dynion mawr i ddau ddosbarth sef mawrion mewn meddwl, a mawrion raewn gweithred. IV cyntaf perthyna pigion y beirdd, yr athronwyr, y darganfyddwyr, a'r dyfeiswyr. I'r ail ddosbarth, y gwladweinwyr, y rhyfelwyr, a'r diwygwyr. Ond wrth edrych yn ol dros hanes y ddaear, pwy nad addefai mai y mawrion hynotaf o ddigon ydyw y rhai nerthol mewn ffydd a duwioldeb. Hwynt-hwy sydd yn gosod yr argraph ddyfnaf ar y byd, ac yn llwyddo i ddyrchafu mwyaf ar ddynol- iaeth. Hwynt-hwy sydd yn gwneud hanes, yn creu cyfnodau newyddion, ac yn newid cwrs yr oesoedd. '' Cyn y gall neb symud byd cyfan," fel y dywedodd rhywun, " rhaid iddo gael craig i sefyll arni yn rhywle o'r tu allan." A dyma gyineriad cewri ffydd. Cymerant eu safle yn yr ysbrydol a'r anweledig ; anturiant bob peth, dioddefant bob peth gan eu bod yn "edrych nid ar y pethau a welir ond ar y pethau ni welir." Peth gwych ydyw i ddyn farw dros ei wlad ; annhraethol fwy arddunolydyw i un farw dros egwyddor. Y mae gweled y rhyfelwr pybyr yn syrthio ar faes y frwydr, yn nghanoi banllefau torfeydd o'i gyd-ddynion, yn olygfa gwerth ei chanmawl; ond ardderchocach filwaith ydyw dioddefaint y merthyr unig, yn nghanol crechwen a gwatwar ei erlidwyr, ac yntau yn gweddio drostynt.