Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Claìs Rbpddìd. Cyf. IV] GORPHENAF, 1905. [RJiif 4 PREGETH Gan y Parch. W. O. JONES, B.A. St. ÍOAN xi. 50.—" Bwddiol yw i ni farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl." Dywediad o eiddo Caiaphas, yr archoffeiriad Iuddewig, un diwrnod o'i gadair, pan yn llywyddu y Sanhedrin yn Jerusalem,. ydyw geiriau y testyn. Arweiniwyd ef i wneud y sylw fel y canlyn :—Ddiwrnod neu ddau yn flaenorol, yr oedd y Prophwyd Mawr, Iesu o Nazareth, wedi talu ymweliad â phentref Beth- ania, ac wedi cyflawni un o'i weithredoedd nerthol yno—gweith- red, yn ddiamheu, a daflodd don o fraw a synedigaeth drwy y ddinas a'r holl wlad oddiamgylch, sef adgyfodi Lazarus oddiwrth y meirw. Meddyliwch beth oedd yr amgylchiadau. Yr oedd gŵr yn y pentref gerllaw, llai na dwy filldir o Jerusalem, gŵr o deulu parchus ac adnabyddusi lawer, wedi huno yn yr angau, ac wedi ei gladdu mewn bedd. Ond, bedwar diwrnod ar ol yr angladd, daeth Iesu o Nazareth heibio o rywle, a deisyfodd am gael gweled nian ei orweddfa. Yr oedd yno dyrfa fawr yn bre- senol ar y pryd, yn gweled ac yn clywed y cwbl. \Vcdi i'r Prophwyd gyrhaedd i'r fangre, " Efe a lefodd â llef ucheì^ Lazarus, tyred allan." Ac wele, "yr hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a'i ddwylaw mewn amdo; a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcyn." Beth pe digwyddai gweithred gyffelyb yn nghyffiniau un o ddinasoedd poblog y dyddiau hyn ? Y fath siarad a chyffro a ddilynasai. Felly yr oedd hi yn Jeru- salem y diwrnod hwn. Amlwg yw fod y ddinas fawr wedi ei hysgytio megis gan ddaeargryn. Aeth rhai o'r Iuddewon, oedd yn llygad-dystion o'r wyrth, ar eu hunion o lan y bedd " at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu."