Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Claìs Rftpddìd. Gyf IV] MEHEFIN, 1905. [Rhif 3 Delw ac Argraph pwy? Mae Diwygiad mawr ar hyn o bryd yn Nghymru a rhanau helaeth o Loegr, ac hefyd, i raddau mwy neu lai, dros yr holl fyd ; a diolch byth o eigion calon i Dduw am dano. Ond nid â'r Diwygiad y mae a fynom yn hyn o ysgrif anmherffaith, ond â'r Diwygiwr; ac ni fuasai a fynom âg yntau, chwaith, pe na buasai iddo ymyryd â'n materion, a phe y buasai wedi cadw o fewn y terfynau a osodwyd iddo, ni a gredwn, gan y Meistr— terfynau meidrol. Mae cymaint o niwl a thywyllwch o'i amgylch, fel na theiml- asom o gwbl ryw awydd mawr i gredu nac annghredu ynddo, er darllen yn fanwl bobpeth ddaeth i'n gafael yn ei gylch. Mae yr hen genedl wedi " colli ei phen " yn lân mewn addoliad iddo, yn ol ei hen arfer gyda phawb a phobpeth newydd a hynod. Nid oes, ac ni fu, amheuaeth yn ein meddwl nad ydj'w yn ddyn ieuanc rhinweddol iawn, ac wedi byw ar hyd ei oes yn mhethau crefydd, á'i fryd hefyd ar gael dynion at y Gwaredwr. Ond trwy ba foddion y daeth i fod yn arweinydd y Diwygiad sydd gwestiwn arall, a chwestiwn, hefyd, nad oes ynom awydd i ymyryd âg ef : Pa un a ydyw ef a'i genhadaeth o apwyntiad dwyfol, ynte a ydyw wedi ymweithio i'r flaenoriaeth oherwydd fod ynddo rai nodweddion nad ydynt i'w cael mewn dynion yn gyffredin ? Nid oes amheuaeth erbyn hyn, gan lawer o ddyn- ion gwybodus a deallgar, nad ydyw yn meddu ar yrysbryd hwnw a elwir yn y Beibl yn Ysbryd Dewiniaeth, a dadleuir gan y dynion deallus yma fod yr Arglwydd wedi neillduo a sancteiddio y gelf hon yn bresenol i gynorthwyo yr Ysbryd Glan. Gobeithio eu bod yn gywir: ffordd rwydd iawn, a dweyd y lleiaf, i ddyfod dros yr anhawsder. " Codi cythreuliaid " y byddai hen ddewin- iaid Cymru gyda'r gelfyddyd yn aml, a chymerai ddarn da o oes, weithiau, i'w " gwastatu." Gwnaed rhywbeth tebyg iawn i hyny yn ystod arhosiad Mr. Evan Roberts yn Lerpwl.