Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lílaîs Rbyddid. Cyf. VI.] IONAWR, 1908. [Rhif 10. Marwolaeth Mr. E. H. Owen. Yn ein rhifyn diweddaf gwnaed cofnodiad byr am farwolaeth chladdedigaeth ein hanwyl frawd a chydweithiwr, Mr. E. H. Owen, Walton ; ond teilynga goffadwriaeth llawer helaethach. Meddai ar ddoniau amrywiol, ac yr oedd yn ŵr o gymaint gweithgarwch, ac o ysbryd mor ragorol, fel ag i'w wneud yn dywysog ym mysg ei frodyr. Mae'n hyfrydwch gennym alln rhoddi darlun o hono i'w gadw ar ddalennau ein cylchgrawn misol, a da fydd gan lawer o'n darllenwyr ei weled. Fel gyda phob symndiad arall ynglyn â'r Eglwys Rydd, yr oedd ganddo ef gryn lawer i'w wneud gyda chychwyniad Llais Rhyddid, ac