Skip to main content

lílais Rhyddid. £yf. VI.] TACHWEDD, 1907. [Rhif 8. " Y Ddiwinyddiaeth Newydd/' Pregeth gan y Parch. W. O. Jones ar "Y Cwymp." (Parhâd 0 Rifyn Hydref) Genesis iii. 15. "Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti ar wraig, a rhwug dy hâd di a'i hâd hithau: Efe a ysiga dy hen di, a thithau a ysigi ei sawdl ef" [Er mantais i'r darllenycld, gwell erybwyll rhai o bwyntiau yr adran fìaenorol o'r bregeth. Dywedais fod lliaws o'r prif ddiwinyddion yn parhau i gredu yn Athrawiaeth y Cwymp, er yn ei hesbonio mewn dulliau tra gwahanol i'r modd y gwneid gan ein tadau. Gan un dosbarth parheir i ddadleu dros y prif syniad yn y drydedd bennod o Genesis ; sef ddarfod i rieni cyntaf y ddynoliaeth, drwy un weithred o anufudd-dod i orchymyn eu Creawdwr, golli eu cyflwr o ddiniweidrwydd, a thynnu arnynt eu hunain a'u hiliogaeth, euogrwydd, cywilydd a marwolaeth. Drwy un cwymp o'r eiddynt hwy, fe gwympodd pawb, ac fe lygrwyd y natur ddynol yn ei gwreiddiau cyntaf. Meddylir, mae'n wir, am y dyn cyntaf, nid yn breswylydd Paradwys, ac mewn cyflwr o wynfyd a pherffeithrwydd, fel y portreadir Adda yn Genesis, ond fel creadur diwybod ac anwar, newydd groesi y llinell sydd yn gwahanu rhwng dyn ac anifail. Hwn, gan hynny, ydoedd yr " un dyn," trwy yr hwn " y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod." Dyma'r unig esboniad, fel y tybir gan y dosbarth hwn, sydd yn ddigonol i gyfrif am gyffredinolrwydd pechod a thrueni drwy hanes ein byd. Fel gwrthddadleuon yn erbyn y golygiad hwn, crybwyllais dair 3Tstyriaeth. (1) Fod esboniadau ereill wedi eu cynnyg ar y broblem, ac fod rhai o'r esboniadau hynny, i lawer o feddyliau