Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Irlais Rhyddid. Cyf. VI.] HYDREF, 1907. [Rhif 7. 44Y Ddiwinyddiaeth Newydd/' Pregeth gan y Parch. W. O. Jones ar ** Y Cwymp." (Parhad 0 Rifyn Medi.) Genesis iii. 15. " Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a"r wraig, a v rhwng dy hád di a'i hâd hithau: Efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef." Aml un yn awr sydd barod i ddweyd yng ngeiriau Dr. Westcott; " I never could understand how anyone reading the first three chapters of Genesis with open eyes could believe that they con- tained a literal history." Ymddanghosant mor anhebyg i hanes gwirioneddol, ac mor debyg i myths y cenhedloedd paganaidd, fel rnai'r syndod erbyn hyn ydyw ddarfod i'r oesoedd o'r blaen eu cymeryd heb ameu eu cywirdeb hanesyddol. Proffesant, mae'n amlwg, egluro'r pa fodd a'r paham y dygwyd i fod y byd naturiol, a rhai o'r ffeithiau hynotaf yn hanes dynoliaeth. Yn y bennod gyntaf dywedir pa fodd y gwnaed y nefoedd a'r ddaear; beth ydoedd trefn cenhedliad lluoedd y nefoedd uwchben, ác afrifed greaduriaid y ddaear isod. Ond a oes rhywun yn awr yn ddigon gwrol i ddadleu y dylem wrthod holl ddatguddiadau gwyddon- iaeth yr oesoedd diweddaf, a glynu'n ddiollwng yng ngwirionedd llythrennol yr hen arwrgerdd farddonol hon yn nechreu llyfr Genesis ? Ac onid yw adroddiadau y penodau nesaf ar yr un tir yn hollol ? Meddylier am rai o'r pethau a ddywedir. Crewyd Efa, meddir, o asen Adda ac efe mewn trwmgwsg yn huno. Dyna ydoedd dechreuad y rhyw fenywaidd, a dyna hefyd yr esboniad ar ddechreuad a natur y berthynas briodasol. A ydym ni heddyw yn barod i dderbyn hwn fel datguddiad boddhaol a therfynol ar y mater ? Drachefn, dj-wedir i Dduw, un diwrnod, beri i holl fwystfilod y maes a holl ehediaid y nefoedd fyned heibio i Adda, er gweled pa enwau a roddai efe arnynt. Ac