Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Irlais Rbyddid* Cyf. VI.] MEDI, 1907. [Rhif 6. "Y Ddiwinyddiaeth Newydd." Pregeth gan y Parch. W. O. Jones ar " Y Cwymp." Gknesis iii. 15. " Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r v:raig. a rhv:ng dy hàd di a'i hád hithau: Efe a ysiya dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef." Y mae'b penodau cyntaf o Lyfr Genesis, nid o ran eu safie yn unig, ond hefyd o ran natur eu cynwys, yn fath o ragarweiniad i holl ddysgeidiaeth y Beibl. Ynddynt hwy gosodir i lawr wirioneddau sylfaenol y berthynas rhwng Duw a dyn—cyn- dybiau pob datguddiad a chrefydd. Crynhoir gan yr Esgob Westcott, yn un o'i lyfrau, y tair pennod gyntaf i dri gwirionedd mawr. Yn gyntaf, dysgir mai Duw- yw Creawdwr y nefoedd a'r ddaear, ac Iddo wneud y cyfan â'i air, ac yn ol cyngor Ei ewyllys Ei Hun. Yn ail, fod dyn wedi ei greu ar ddelw Duw, a'i fod, oblegid hynny, yn abl i gymdeithasu âg Ef, i'w addoli, ac i'w garu. Ac yn drydydd, ddarfod i ddyn, rywbryd ar gychwyn ei yrfa, trwy weithred wirfoddol o anufudd-dod, andwyo ei berthynas â'i Greawdwr, a dewis iddo ei hun lwybr 0 wrthryfel a marwolaeth. Dysgir y gwirioneddau oll-bwysig hyn, nid fel athrawiaethau dirgel, ond yn y ffurf 0 hanesion syml a difyrus : yn gymaint felly, fel ag i'w gwneud, ymhob oes, yn straeon y pentan i ddyddori plant bychain pan yn dechreu siarad a -darllen. Ac eto, pa wirioneddau dyfnach na'r rhai hyn : pa wirioneddau hefyd mwy hanfodol bwysig i ddiwinyddiaeth a duwioldet) ? Gorweddant o'r tu cefn ac o dan holl ddysgeidiaeth yr Hen Destament a'r JSewydd. Heb yr ail, nis gellir credu mewn datguddiad o unrhyw fath ; ac heb y trydydd, ni buasai angen am Waredwr, nac unrhyw drefn o iachawdwriaeth. A'r trydydd gwirionedd y mae a fynom yn y bregeth hon, sef yr hyn a elwir yn hanes cwymp y ddynoliaeth. Yn y fan yma, fodd bynriag, dymunaf ddwTeyd nad wyf yn edrych ar y bennod hon, mwy na'r penodau o'i hamgylch, fel hanes yn ystyr briodol y gair. Y mae'r amser i'w hesbonio fel y cyfryw wedi myned heibio, ac y mae teyrngarwch i wirionedd yn galw arnom