Skip to main content

lílais Rhyddîd* Cyf. VI.] MEHEFIN, 1907. [Rhif 3. " Y Ddiwinyddiaeth Newydd." Pregeth gan y Parch. W. O. Jones ar "Safon Gwirionedd." St. Ioan xviii. 38. " Pilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd t" St. Ioan vii. 17. " Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyìlys Ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai 0 Dduw y mae hi, ai myfi o honoffy hun sydd yn llefaru." St. Ioan xvi. 13. " Ond pan ddel efe, sef, Ysbryd y Gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd." Yn y tair adnod uchod daw i'r golwg yr un ymofyniad, sef, Pa fodd y dichon dyn methedig a marwol wybod beth yw gwirionedd ? Cwestiwn o eiddo Pilat ydyw y cyntaf, ac ar y pryd yr oedd yr Athraw Mawr ei hunan yn sefyll Ei brawf ger ei fron. " Ai brenin wyt ti ? " gofynai'r Barnwr» " Ië," oedd yr atebiad, " er mwyn hyn y'm ganed, ac er mwyn hyn y daethum i'r byd, fel y tystiolaethwn i'r gwirionedd. A phob un ar sydd o'r gwirionedd sydd yn gwrando fy lleferydd." " Gwir- ionedd," ebai Pilat, gan gipio'r gair o enau'r Iesu, "Beth yw gwirionedd ? " Fel pe dywedai, " Llawer a gymerant arnynt ei ddysgu, a mawr yw y dadleu yn ei gylch. Crefyddwyr yn erbyn crefyddwyr, ac athronwyr yn erbyn athronwyr, a phob ysgol a sect yn ymryson taeru mai hwynthwy yn unig a wyddant beth ydyw. Ond yn y diwedd, ac ar ol yr holl ddadleu a thaeru, pwy a ddywed beth yw gwirionedd ? Agnostic ydoedd Pilat, Rhufeiniwr balch, paganaidd, daearol ei ysbryd. G-wr o ddysgeidiaeth a diwylliant, mae*n ddiau ; yn gwybod cryn lawer am ddysgawdwyr Groeg a Rhufain, ac am gyfun- drefnau athronyddol y dyddiau hynny. Ond dyn y byd hwn oedd efe o'i goryn i'w sawdl, heb gysgod o gydymdeimlad â chwestiynau mawrion moesoldeb a chi^efydd. Bydol-ddoethyn hunan-geisioJ, tebyg i'r barnwr anghyfìawn yn y ddameg, yr hwn nad ofnai Dduw ac na pharchai ddyn. Ac yr oedd llawer .0 lefain y cynic yn gymysg â'i anghrediniaeth. Dyn ydoedd