Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Claìs Gyf. VI.] MAI, 1907. [Rhif 2. Y Ddiwinyddiaeth Newydd. PREGETH GAN Y PARCH. W. O. JONES, AR " YSBRYDOLIAETH Y BEIBL." II. Timotheus iii. 16.—" Yr holl Ysgrythyr sydcl wedi ei rhoddi gan Ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i ath- rawiaethu, i argyhoedäi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiaiunder." Ar y pwnc o Ysbr)doliaeth y Beibl ymddengys yr adnod hon, ar yr olwg gyntaf, yn hollol bendant. Ûnd y mae'n }*mddangos yn gryfach nag ydyw. Yn un peth, y mae'r cyfieithiad Cymraeg i fesur yn gamarweiniol. Y cyfieithiad diwygiedig, ac yn ddi- ddadl y cywiraf o honi, ydyw, " Y mae pob Ysgrythyr a ysbryd- olwyd gan Dduw yn fuddiol heíyd i athrawiaethu, &c." Ni ddywedir pa ysgrythyrau sydd yn ysbrydoledig; a ydyw yr holl Feibl felly, ai ynte rhyw rannau neilltuol o hono ? Acerbyn sylwi ar gysylltiadau yr adnod, gwelir yn eglur nad yw yn dweyd dim am y Testament Newydd. Llythyr ydyw hwn at Timotheus, ac yn yr adnod flaenorol dywedir, " Ac i ti er yn fachgen wybod yr Ysgrythyr lân, yr hon sydd abl i'th wneuthur yn ddoeth i Iachawdwriaeth, trwy y fifydd sydd yng Nghrist Iesu." Ac wrth gwrs, yr Hen Destament ydoedd Beibl Tim- otheus pan yn fachgen,yr hwn a ddysgwyd iddogan ei nain Lois a'i f-1111 Eunice. Nid oedd yr un gair o'r Testament Newydd mewn bod y pryd hwnnw. Ac nid yw'n sicr, ychwaith, aoedd y cwbl o'r Hen Destament i mewn yn ei Feibl ef. Cwestiwn o ddadl ydyw, beth ydoedd yr hyn a ystyrid yn Ysgrythyr Lân gan yr Apostol Paul. Beth oedd y Beibl'a astudiwyd ganddo ef a chan yr Iesu pan yn fechgyn ieuainc ? A oedd yr holl lyfrau sydd i mewn yn yr Hen Destament i mewn y pryd hwnnw ? Hyn a wyddom, yr oedd Ysbrydoliaeth Ddwyfol rhai o honynt, yn enwedig Caniad Solomon a llyfrau Esther, a'r Pregethwr, yn fater o ddadl ymysg rabiniaid y genedl. Wedi hynny, oddeutu diwedd y gaurif gyntaf 0. C, y penderfynwyd yn der-