Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clais Rlwddìd. Cyf V.] MAWRTH, 1907. [Rhif 12. CYFARFOD ORDEINIO Y Parch. W. A. LEWIS, Donaldson Street. Fel y gŵyr ein darllenwyr, er's tro yn ol bellaeh, rhoddwyd galwad i Mr. W. A. Lewis, gan eglwys Donaldson Streeb, i ym- gymeryd â'r gwaith o'i bugeilio. Nid oedd neb o leygwyr yr Eglwys Rydd, er ei chychwyniad cyntaf, yn fwy amlwg fel gweithiwr llwyr-ymroddedig nag efe. Synai llawer at ei fedr a'i ddiwydrwydd gyda phob rhan o'r gwaith, ac enillodd radd dda iddo ei hunan yng ngolwg yr holl eglwysi. Wrth ei ddewis ef, gan hynny, yr oedd eglwys Donaldson Street yn dewis gŵr profedig a gwir gymeradwy gan cin cyfundeb yn gyffredinol. Er's blynyddoedd, bellach, pregethai agos bob Saboth yn ein capelau, ac yr ocdd ei weinidogaeth yn dra derbyniol gan y cjnulleidfaoedd. Ar ol cryn lawer o bryder rneddwl, pender- fynodd o'r diweîd dderbyn gwahoddiad Donaldson Street, a chysegru y gweddill o'i oes yn gwbl i lafurio yu y gair a'r athrawiaeth, ac ar yr wythnos gyntaf o'r flwyddyn 'ion dechreu- odd ar ei waith o ddifrif. Nos Fawrth, Ionawr 29ain, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i'w ordeinio. Ac erbyn amser dechreu, er fod y ty wydd yn anffafriol, a'r noswaith yn hynod o oer a gwleb, daeth cynulliad rhagorol ynghyd. Yn eu mysg, gwelid 11 u o gyfeillion ac ewyllyswyr da Mr. Lcwis wedi ymgasglu o bell ac agos, er dangos eu llawenydd ar ei ordeiniad. Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr. R. J. Williams, Ledsham, ac yn ol ei arfcr, cyflawnodd ei orchwyl yn ddoeth a deheuig. Gyda'r llywydd ar yr esgynlawr yr oedd Mr. Lewis a'r Parchn. David Davies, Edwyn Evans, W. O. Jones, B. A., a W. H. Edwards, B. A., East Grinstead ; ynghyd â lliaws o swyddogion yr eglwysi. Dechreuwyd y cyfarfod drwy ganu yr emyn adnajbyddus, " Henffych i enw Iesu gwiw, &c," ac yna darllenwyd rhannau cyfaddas o'r Ysgrythyr gan Mr. J. R. Williams, o eglwys Canning Street. Wedi canu drachefn " Mae'r gwaed a redodd ar y groes, &c." Arweiniwyd yn dra effeithiol mewn gweddi gan y Parch,