Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Claìs Rbpddid. Gyf V.] CHWEFROR, 1907. [Rhif 11. PREGETH Draddodwyd yn Seisnig yng Ngwyl Flynyddol capel Canning Street, lonawr 6ed, 1907, gan y Parch. Daniel Hughes, Lerpwl. " Ac y mae ei lygaid yn fflam dân, ac ar ei ben y mae coronaa lawer; ac y mae ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn nid edwyn neb ond efe ei ìnin."—Dat. xix. 12. (Cyíìeithiad Diwygiedig). Mae y llyfr ola'f yn y Testament Newydd wedi bod yn achlysur ymdrafodaeth ymysg yr esbonwyr am hir amser. Sylwaf fod llawer o'r esbonwyr yn syrthio i mewn â'r hen ddüll o^iesbonio, tra mae ereill yn gwrthod cynygunrhyw esboniadacyncredu ein bod wedi colli agoriad y trysorgist. Yn diiweddar, modd bynag, mae y rhan fwyaf o'r rhai blaenaf o'r esbonwyr yn ceisio ei esbbnio yn llai llythyrennol, gan geisio ei ystyr ysbrydol. Credaf y gellir dod 0 hyd i'r gemau trwy fabwysiadu y dull newydd. Ceisiwn weled trwy y disgrifiadau y gwirioneddau triigwyddol sydd o'r tu ol iddynt. Wrth ddarllen gwèithiau ereill Ioan, a'u cymharu â'r llyfr hwn, fe sylwa y darllenydd ar unwaith fod cryn wahaniaeth rhwng arddull yrysgrifennydd yn ei Efengyl a'iarddullyn Llyfr y Datguddiad. Mae gwynepryd llonydd a thangnefeddus Ioan yr Efengylydd yn y Uyfr hwn tan goron lachar. Mae pin yr Apostol wedi ei throchi mewn hylif amryliw i ysgrifennu y ffigyrau hyn. Mae yr haul—Duw cariad yw—yma yn torri yn enfys anferth ond prydferth ar yr un pryd. Mae yma ddarlun o'r Crist nid yn fwyaf mewn llinellau tyner, ond gydag eofndra rhyfeddol y portreir Ef. Nid sibrwd y Duwdod yn y tawelwch sydd yma yn ogymaiiit ag arddangosiad o Frenin y Brenhin- oedd ar ei orsedd dragwyddol yng nghanol storm, ac eto yn gorchfygu. Unigedd Patmos yn blodeuo yn ardderchogrwydd sydd yma. Nid rhyfedd i hyd yn oed Ioan fethu cael geiriau cymwys i ddatguddio ei weledigaeth i'w frodyr. Mae iaith oreu y