Skip to main content

Clais Rbpddìd* Gyf V.] RHAGFYR, 1906. [Rhiý 9. PREGETH Gan y Parch Edwyn Evans. Esaíah lii. 1— " Gwisg dy nerth, Seion." Yr oedd Seion yn y caethiwed pan lefarwyd y geiriau hyn, ond yr oedd amser ei gwaredigaeth yn agoshau. Ac y mae Duw, trwy enau y proffwyd, yn gorchyrayn iddi ymddatod oddi wrth rwymau ei. gwddf, ymysgwyd o'i llwch, codi o'i difaterwch,deffro o'i chysgadrwydd, a gwisgo ei nerth—" Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion." Y mae'r geiriau hyn yn gymhwysiadol at yr Eglwys mewn llawer oes, ac yn neilltuoî felly yn yr oes a'rdydd- iau presennol. Iaith Duw, gan hynny, atyr Eglwys heddyw, yn ogystal ag yn amser y proffwyd yw, " Gwisg dy nerth, Seion." A charwn ddywedyd hyn wrth fyned heibio,—Eglwys wedi ei sylfaenu ar egwyddorion y Gwr o Nazareth, a phob aelod o honi nid yn unig yn credu, ond hefyd yn byw yr egwyddorion hynny, yw y gallu cryíaf ar wyneb y ddaear heddyw. Yr un yw Seion yr Hen Destament a'r Eglwys Gristionogol yn y dyddiau hyn, ac y mae'r Arglwydd trwy ei broffwyd yn galw arni i ddefnyddio y gallu sydd yn ei meddiant. Nid gwisg fy nerth a ddywedir, ond gwisg dy nerth, yr hyn sydd yn tybied fod gan yr Eglwys rhyw nerth ynddi ei hunan, fod ynddi rhyw allu sydd yn eiddo priod iddi fel Eglwys. Beth ydyw y nerth hwnnw ? Purdeb cymeriad, yn ddiddadl; ac i gael Eglwys bur, rhaid i'w haelodau, bob un yn bersonol, fod yn lân eu cymeriad- au. Nis gall Duw ei Hunan gyfrannu purdeb i Eglwys ond drwy y personau unigol. Rhaid i ti a minnau fyw cymeriad allan, a'r hyn a wna Duw ydyw ein cynorthwyo i rodio fel y gweddai i saint rodio. Dyma, gan hynny, y gorchymyn—"Gwisg dy gymeriad o l?urdeb, Seion." Dos allan yn dy wisgoedd priodol. Dangos dy