Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clais Rbpddìd. Cyf V.] AWST, 1906. [Rhif 5, Y Pum Mlynedd Hyn, Er pan yr ysgrifenais íy nodion yn y rhifyn diweddaf, yn sylwi ar y ffaith fod Eglwys Rydd y Cymry yn bum mlwydd oed, bum yn synnu ac yn rhyfeddu wrth geisio taflu fy ngolwg yn ol ar hyd 3^ llwybr dyrys a throiog a gerddasom. A'm hamcan yn hyn o ysgrif fydd gosod ar len yr hyn a ddaeth i'r meddwl wrth fyfyrio ar y pum mlynedd hyn. Gosodaf y sylwadau i lawr yn union fel y cynygiant eu hunain i mi, heb ymgais am unrhyw drefn a dosbarth arnynt. Nid ydwyf yn addaw mai mêl fyddant i gyd, a dichon nad derbyniol gan lawer o'm darllenwyr fydd rhai pethau a ddywedaf. "Llawer gwir drwg ei ddywedyd," medd hen air, ond dylem gofio ar yr un pryd fod '•' Llawer gwir drwg ei gelu " hefyd. Diogelwch eglwys yn aml, fel diogelwch dyn, ydyw mewn aros i edrych i ba ley mae yn myned, ac i ofyn iddo ei hun a ydyw ar yr iawn lwybr i gyrraedd y lle yr ym- gyrcha ato. Ar adegau felly, gofynnol ydyw edrych drach ein cefn i geisioolrhain y llwybr y cerddasom ar hyd-ddo, yn enwed- ig os yn teithio tir dieithr. Nid ein cymwynaswr goreu, bob amser, )7dyw yr hwn sydd yn pentyrru canmoliaeth arnom byth a hefyd, yn cau llygaid ar ein diffygion, ac yn esgeuluso ein rhybuddio pan yn gwybod ein bod yn cyfeiliorni. Nid yn y feirn'iadaeth anftafriol y mae'r colyn, ond yn yr ysbryd ymha un y gwneir y sylwadau. Ceisiaf innau fras-adolygu y pum mlynedd cyntafyn hanes ein Cyfundeb bychan, mewn ysbryd cyfeillgar. Nid yw ei ffyniant yn nes at galon neb nag at galon yr ysgriíen- nydd, ac nid oes undyn yn edrych ymlaen yn fwy ffyddiog am lwyddiant yn y dyfodol. Credaf â'm holl enaid fbd yr Arglwydá gyda ni, i ni gael ein galw at waith arbennig, ac fod ilawer wedi ei gyflawni eisoes a dderbyniodd gymeradwyaeth y Meistr. Ar yr un pryd, eglur ddigon ýdýw,nad ydym hyd yn hyn wedî sylwéddoli ein deìfryd (ideal), a'n bod ymhell o gyrraedd y npd a oeodásòm o'n blaen. Cychwynasom yn iin "tciihi hapus,