Skip to main content

Claìs Rftpddid. Cyf III] RHAGFYR, 1904. [Rhif 9 Yr Efengyl yn ol yr Hebreaid. Cawsom ar ddeall fod rhai o'n darllenwyr yn mwynhau yr erthygl yn ein rhifyn diweddaf ar " Ddywediadau yr Iesu," ac yn dymuno gweled rhagor o bethau cyffelyb yn ein cylchgrawn misol. Oherwydd hyny, anturiwn roddi ysgrif arall, rhywbeth yn debyg, sef, ar hanes a chynwys yr efengyl uchod. Cyfeirias- om ati yn ein rhifyn diweddaf fel yr hon âg y gobeithiai llawer mai darnau ohoni hi ydoedd y ddwy ddalen a ddarganfyddwyd yn ddiweddar yn yr Aipht. Nid oes odid un o'r hen lyfrau coll- edig âg y mae cymaint o ddyfalu a dadleu yn ei gylch â hwn; na'r un ychwaith ag y buasai ei ddarganfod yn gymaint o gaff- aeliad i feirniadaeth Feiblaidd. Ceir gweled eto y rhesymau paham. Gwyddis yn barod gryn lawer o hanes yr efengyl, ac y mae degau o ddyfyniad^u ohoni yn awr ar gael, wedi eu cadw yn ngweithiau awduron oedd wedi ei gweled a'i darllen. Casglwyd y dyfyniadau hyn at eu gilydd lawer tro cyn hyn. Gwnaed hyny unwaith gan Sais dysgedig o'r enw Nichol- son, yn y flwyddyn 1879, mewn cyfaol a elwir ganddo, The Gospel according to tlie Hebrews. Ac yn ddiweddar cyhoedd- wyd tair neu bedair o gyfrolau yn yr Almaen, gan wŷr galluog, ar yr un testyn. Ac nid yw yn afresymol disgwyl y daw yr efengyl ei hunan rhyw ddiwrnod i'r golwg. Am ganrifoedd o amser bu mewn cylchrediad lled eang yn mysg y Cristionogion, a phrin y gellir credu fod yr holl gopi'au ohoni wedi eu llwyr ddinystrio. Fodd bynag, y mae yn awr chwilio mawr am dani, a disgwyliadau byw am ei darganfod. A phe deuai i'r golwg, diau y taflai oleuni dyddorol ar lawer o gwestiynau, oblegid nid oes yr amheuaeth lleiaf am ei hynaf- iaeth. Dadleua rhai yn wir ei bod yn hŷn na'r un o'r pedair Efengyl yn y Testament Newydd. Jerome, yr hwn a flodeuai yn ystod yr haner olaf o'r bedwaredd ganrif, sydd yn adrodd mwyaf o'r manylion o berthynas iddi. Treuliodd ef lawer o'i amser yn mysg y Cristionogion Hebreaidd, ac yr oedd yn feistr