Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Claìs Rbpddìd. Oyf. IIIJ HYDREF, 1904 [fíhif. 7 Mr, Daniel Jones. Un o'r dynion pwysicaf mewn unrhyw gymdeithas neu eglwys ydyw y Trysorydd, a ehyda llawer o hyfrydwch y cyflwynwn i'n darílenwyr ddarlun o Drysorydd Cyffredinol cyntaf Eglwys Rydd y Cymry, heb yr hwn ni buasai oriel ein swyddogion yn gyflawn. Un o blant " Dyffryn Clodfawr Clwyd" ydyw Mr. Daniel Jon,j. Canwyd ef yn Ty Draw, tyddyn bychan yn mhlwyf Efenechtyd, yn agos- i Ruthin. Gorwedd y tyddyn ar y gwastad yn mhen uchaf y dyffryn, ac yn nghesail Coed Marchan. Enwau ei rieni oeddynt John a Mary—deuddyn adnabyddus a pharchus