Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORM GYMULLËIDF Rhif. 47.] TACHWEDD, 1040. [Cýf. IV. PREGETH AR 1 IOAN 5. 16. " Os gwel neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a' rydd iddo fy wyd, i'r rhai sy'n pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth : tiid am hwuw yr wyf yn dywedyd ar' ddeisy f o hono." Y mae yn ffaith anwadadwy, fod ara- gylchiadau allanol yn dwyn dylanwad helaeth ar y meddwl dynol; felly yr oedd yr erlidiau, y gwawd a'r dirmyg ag oedd yr eglwys yn ei gael yn morau Cristionog- aeth, oddiwrth ìuddewon anghrediniol, a chenhedloedd eilunaddolgar yn dẅyn eu dylanwad arni; yr oedd yn creu amheuaeth âdigalondid; yn wyneb hyn gwelwn yr Apostol yn eu cadarnhau â'r annogaethau cryfaf; hefyd yr oedd yr amgylchiadau hyn yn creu zeí yn yr Eglwys ara ymar- weddiad santaidd yn mhlith ei haelodau; fel na fyddai i'r gelynion gael lle i gablu yr enw rhagorol. Yr oeddent mor frwd- .frydig yn hyn, feî yr ystyrient bob un a gaffai ei oddiweddyd gan ryw fai fel un o'i gelynion a'i herlidwyr, am fod y gelynion trwy ei fai ef, wedi cael lle i gablu; ag ymddygent tuag at y brawd fel un wedi troi 'nol at Iuddewaeth neu éilunaddoliaefh; ni arferent un moddion er ei adferiad; ag i'r dyben i'w harafu a'u cyfarwyddo i iawn ymddwyn at bob un yn ol ei fai, y Hefarodd yr Apostól eiriau y testun, yr hwn sydd yn cynnwys fod gwahaniaeth rhxvng pechodau. Er fod pob pechod yn un yn ei natur, yn dros- eddau o gyfraith Duw; eto y mae gwa- haniaeth yn eu graddau a'u heffeithiau, am hyny ei fod yn anghenrheidiol fod gwahaniaeth yn eu hymddygiad hwythau at bersonau a fyddai yn euog.o wahanol bechodau. Felly er egluro y gwirionedd, —Nodwn I. Y pechodau a nodir. 1. Y pechod i farwolaeth. Dengys yr Apostol ei fod y.n golygu rhyw bechod yn neillduol, am hyny y rnae yn deilwing o'n sylw. 41 1. Pa bechod a olygir, (heb olrhaiu gwahanol oiygiadau ddichou fod wcdi neu yn cael ei roddi, tybiaf fod yr Apostol yn awgrymu mewn amryw fanau vn y llythyr hwn, yn nghyd a'r adnodau dilynol i'r testun, mai y pechod a olyga yma yw gwadu yr Argíwydd, wedi un- waith wneyd arddeliad o hono, a throì 'nol at Iuddewaeth, neu eilunaddoliaetîi, i wrthsefyll egwyddorion y gwirionedd. Mae yn deilwng o'n sylw, fod rhai mewn profedigaeth.au chwerwon wedi ac yn gwadu yr Arglwydd, trwy wrthgiíio oddiwrth ei achos, fel Pedr, nad ydynt o dan lywodrac)th y pechod hwn; eto trw.y aros yn eu cyndynrwydd ar y ffordd sicraf i syrthio iddo; cawn eraill fel Eglwys Laodicea mewn claiarineb, wedi ymgaledu i'r fath raddau, hyd nes ÿ byddo pob peth crefydd wedi myned yn faich iddynt; a'u calon-galedwch wedi ym- ddwyn ar gasineb yn yr enaid at Dduw a'i waith; ac o dan ddylanwad y teimlad hwn o gasineb. Gwadant yn ddirmygus wirionedd yr ysgrythyrau. Ni oddefant siarad am grefydd Mab Duw. Dywed rhai o honynt yn yr oes hon, mai natur yw eu Duw, a'i deddfau yw eu rheoi; ond ar weithredoedd gwrthodant ddeddfím natur megys y gwrthodant yr ysgryîhyrau ar air, ag eglurant mai geìyniaeth at egwyddorion Crist yw eu prif egwyddor; dyma y rhai a elwir yn yr epistol hwn ytì anghristiau a gau--broffwydi lawer, y rhaí sydd wedi myned allan oddiwrthym ní, a thyma y pechod i farwolaeth yn y testun, a'r drwg hwnw nad yw yn cyffwrdd a'r neb a aned o Dduw. 2. Paharn y gelwir y pechod hwn yn bechod i farwoîaeth yn fwy ua rhyw bechod arall.