Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OTâíDÄ araaaÄaira» Rhif. 12.] RHAGFYR, 1843. [Cyf. I. COFIANT Y PARCH. PHILIP HENRI, A.C., Gynt o WoHhenbury, wedi hyny o'r Dderwen Lydan, Swydd Ccdlestr, neu Flint. Ganwyd y gwr duwiol ac enwog hwn, Awst24, 1631, yn y Neuadd-Wen, yn yr Orllewin-Fynachlys, Caerludd. Yr oedd ei dad, Mr. John Henri, yn gyd- ymaith cyf'rinachol i Iarll Pemfro; yr hwn, pan yn Arglwydd Ystafellydd, a'i dyrchafodd i wasanaeth y Brenin ; a chafodd yr anrhydedd o fy w a marw yn wr Uys. Ganwyd ei fab yn y llys ; ac yn fynych byddai yn cya-chwareu a'r Tywysosg Siarls a Duc Caerefroc, y rhai oeddynt ei gyfoedion ; ac felly yr oedd yn obeithioly cawsai ddyrchafiad mewn amser i ddỳfod. Derbyniodd Mr. Henri ei addysg boreuol yn ysgol yr Orllewin-Fynach- lys, tan aro«ygiad~ y dysgedig Dr. Busby ; yr hwn, o herwydd ei gynnydd rhagorol mewn dysgeidiaeth, ynghyd a'i yrnddugiad boneddigaidd a mwyn- aidd, a'i hoíFai yn fawr. Mewn canlyn- iad i'w deilyngdod cynhwynol ac en- nilledig, mewn cyssylltiad âdylanwad Iarll Pemfro, cafodd, yn 1645, ei dder- byn yn un o ysgolheigion y Brenin; ac yr oedd yn flaenaf o'r rhai a ethol- wyd ar y pryd i'r uchel-fraint hono. Yn mhlith ereill, cafodd ei ddefnyddio gan ei athraw, Dr. Busby, i gasglu ynghyd ddefnyddiau at y Grammadeg Gry w rhagorol a gyhoeddwyd ganddo. Yn Mai, 1647, appwyntiwyd ef, yng- hyd â phedwar ereill o'i gydysgolheig- ion, i fyned i Goleg Cns't, yn Rhyd- ychen; a chafodd ei anrhydeddu â'r ail le yn eu plith. Yn Rhagfyr can- lynol, derbyniwyd ef yn GyfFrediniad (commoner) o'r Coleg, a sefydlwyd Mr. Underwood yn athraw iddo. Llwyr- ymroddodd i fyfyrio; ac yn Mawrth dilynol, cafodd ei dderbyn yn fyfyriwr, gan Dr. Hammond, yr hwn, y pryd hwnwoeddls-ddeon. Mewn ymweliad, trwy awdurdod y Senedd, â'r Brif- ysgol, panroddwydy gofyniad dilynol i'w ateb, mewn ysgrifen, gan yr holl ysgolheigion, "A ymostyngwch chwi i awdurdod y Senedd, yn yr ymweliad presennol?" Ateb Mr. Henri oedd, " Yr wyf yn ymostwng gan belled agy gallwyf yn gysson â chydwybod dda, a'm llw o ffyddlondeb i'r Brenin." Cymmeradwywydyratebiad,achafodd yntau gadw ei le, fel myfyriwr. Cyn- nyddodd yn rhagorol mewn dysgeid- iaeth, ac yn yr amser arferol, cafodd ei raddio; a derbyniodd ganaioliaeth mawr am amryw o'i gyflawniadau Colegawl. Pregethodd Mr. Henri ei bregeth gyntaf, Ionawr 1653, yn South Hine- sèy, Swydd Rhydychen. Ysgrifenodd boneddiges y Barnwr Puleston, o Em- erald, ger Worthenbury, Swydd Call- estr, at Mr. F. Palmer, o Eglwys Crist, yn Rhydychen, i ofyn iddo gymmer- adwyo rhyw wr duwiol i arolygu ei meibion, a phregethu yn Sabbothol yn Worthenbury. Nododd Mr. Palmer wrthddrych y Cofiant presennol, yr hwn oedd yn foddlon i fyned yno ar brawf dros hanner blwyddyn. Aeth Mr. Henri yno mewn canlyniad; a chwedi treulioyr amser appwyntiedig, dychwelodd i Rydychen. Yn mhen ychydig ar ol hyny, derbyniodd gym- 34