Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wsoaîa MmuäircmoiL RflIF. 1!.] TACHWEDD, 1843. [Cyf. I. COFIANT Y PARCH. SAMÜEL JONES, A.C., Brÿnllÿwarcli, Langynwyd, Morganwg. Un o'r amgylchiadau mwyaf pwysig mewn cyssylltiad â chrefydd yn y deyrnas hon, yn nesaf at amrafaeliad Harri VIII. â'r Pab, oedd sefydliad Gweithred Unffurfiaeth, yn aniser Siarls II; yr hon a rwymai holl weinidogion Eglwys Wladol Lloegr i ar- wyddo eu cydsyniad diragrith â'r oll a'r cwbl cynnwysedig yn Llyfr y Weddi Gyff- redin, dan boen ymddifadiad o'u bywiol- iaethau. Derbyniodd hon y cydsyniad breninol, Mai 11, 1662 ; ac ar DdyddGwyl Bartbolomew canlynol, Awst 22, cafodd ei gosod mewn grym ; ac, mewn canlyniad, uwchlaw 2000 o'r gweinidogion mwyaf duwiol, dysgedîg, a llafurus, ag y mae genym lianes am danynt, a ymadawsant ar y diwruod nodedighwnw,â'u bywiolaethau, am nas beiddient lychwino eu cydwybodau, trwy arwyddo eu cydsyniad calonog ag amrywiol bethau a ystyrient hwy yn groes hollol i air Duw. Y mae y rhai hyn i'w hystyried fel sylfaenwyr cyntefig Ymneill- duaeth yn y deyrnas gyfunol; ac fel tadau parchus yr Henuriadyddion, Annibynwyr, a'r Bedyddwyr, yn Lloegr, Cymru, a'r Iwerddon. ü'r rhai'n, nid oedd dim llai na thri deg tri yn Ngwent a Morganwg: o ba rai, nid y lleiaf enwog raewn duwiol- deb, llafur, a llwyddiant gweinidogaethol, oedd gwrthdtrrycir-y~-Gefia»t--h-w-»* sef- y Parch. S. Jones, A.C., Brynllywarch, Syl- faenydd yr Eglwys gynnulleidfaol yn Nghil- deudy, yn mhlwyf Llangynwyd; wedi hyny yn y Citi/, yn mhlwyf y Bettws; ac yn bresennol yn Mrynmenyn, yn mhlwyf St. Ffraid Leiaf, ar lan Ogwy. Ganwyd y gwr gwir harchedig hwn, yn agos i Gastell Circ, yn Swydd Dinbych, Gogledd Cymru. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Rhydychen, ac yr oedd yn Gyfaill o Goleg Iesu yn y brifysgol hono, lle, hefyd, y buyn athraw dros amiyw flwyddi. Urddwyd Mi'. Jones, yn Taunton, yn Ngwlad yr Haf. Gwedi iddo ymadael, o gydwybod, â'i fyw- iolaeth, ac ymuno â'r Ymneillduwyr, yn 1662, cadwodd ysgol ieithadurol yn eidŷ ei hun yn Mrynllywarch..,vYr oedd y Dr. Llwyd, Esgob Llandâf y pryd hwnw, yn ei bnrchu yn fawr, a gwnaeth amiyw gyn- nygion pwysig i'w ennill i gydffurfio, y rhai a brofasant yn gwbl ofer ac aneffeithiol; canys pa fwyaf yrystyriai Mr. Jones delerau cydffurfiad, mwyaf yr oedd ei feddwl puraidd ef yn eu flìeiddio, a phellaf i gyd ydoedd oddiwrth dderbyn cynnygion manteisiol yr Esgob. Yr oedd efe yn Gristion didwyll, o'r dull cyntefig; aphobamseryn addfwyn, siriol, a thangnefyddus. Yr oedd ei holl ymarweddiad yn gymmysgedd hyfryd o ddifrifwch a sirioldeb. Yr oedd efe, hefyd, y n wr tra synhwyrol; ac felly ennillai barch a chyfrifiad mawr oddiwrth bendefigion y swydd, y rhai, amrywo honynt, a osodasant eu meibion yn ei Athrofa ef, i dderbyn ei addysgiadau. Treuliodd Arglwydd Mansel, o Fargam, amryw flwyddi yn ei Athrofaef; 31