Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 10.] HYDREF, 1843. [Cyf. I. COFIANT Y PARCH. DANIEL WILTAMS, D.D., Gynt o Ddulyn, tcedi hyny o Gaerîudd. [Parhad o Tu Dal. 167.] Yr oedd gwrthddrych teilwng y Cofiant hwn yn ddyn gweithgar, o ysbryd cyhoedd, a selog. Y fath oedd ei awydd am wneu- thur daioni, fel na fyddai un amser yn segur. Yr oedd efe yn wr teg a chymmedrol, o dymher oddefol a gwir foneddigaidd at ddynion o farn wahanol iddo ef, am ffeithiau a defodau y grefydd Gristionogol. Fel prawf o hyn, mae yn wiw sylwi, iddo ym- drechu hyä eithaf ei allu pan yr oedd ysgrif yn erhjn cydffurfiaeth achlysurol yn gor- wedd dan ystyriaeth y Senedd, yn amser y frenines Anne. Heblaw hyny, yr oedd efe yn bleidiwr gwresog i'r undeb â'r Alban, yn y fiwyddyn 1707; a chefnogodd ef, mewn modd bywiog, yn mhlith ei gyfeillion lliosog ac anrhydeddus. Yn y fiwyddyn 1709, derbyniodd Mr. Williams radd-lythyrau o Brif-ysgolion Eiddin a Glasgow, yn ei anrhydeddu â'r teitl Dysgawdwr (Doctor) Duwinyddiaeth. Yr oedd y gradd-lythyr (diploma) a dder- byniodd o'r lle olaf wedi ei amguddio mewn blwch arian, fel arwydd o barch arbenig iddo. Mae yn deilwng o sylw, mai yr un pryd y derbyniodd Dr. Calamy (jt hwn oedd yr amser hwnw yn yr Alban) a Dr. Oldfield eu gradd-lytlryrau. Oddiamgylch diwedd teyrnasiad y frenines Anne, yr oedd meddwl Dr. Williams yn dra phryderus ynghylch sefyllfa rhyddid gwladol a chrefyddol y wladwnaeth ; ac ni rysodd amlygu ei fcddyliau ar y pwnc, mewn modd rhydd ac eofn, i'r prif-weinidog, â'r hwn yr oedd, er ys cryn amser, yn dra chyfarwydd a chyfeillgar. Rhybuddiodd y prif-weiuidog yn ddiofn o'i sefyllfa beryglus, gan nad pa ochr a ddewisai—ochr rhyddid, neu'r un wrthwynebol. Ond ni chafodd ei ymddygiad syml a diragrith y derbyniad a fuasai yn ddymunol gyda'i gyfaill urddasol; canys dywedir iddo, mewn canlyniad, ffromi cymmaint wrtho fel na chafodd ei heddwch byth mwyach. Y prif achos o hyny oedd, i rywrai gwaelion fynegu sylwadau cyfrin- achol y Doctor, ar ymddygiad y prif. weinidog, mewn llythyr a anfonwyd ganddo at ryw gyfeilìion yn y chwaer ynys. Yn mhlith holl ddeiliaid y llywodraeth Prydeinaidd, nid oedd neb yn gorfoleddu yn fwy dirFuant yngostegiad y dymraestl fygythiol, ar esgyniad Sior I i'r orsedd, na Dr. Daniel Williams; ac, fel blaenor' y gweinidogion detholedig, oddiamgjich y brif-ddinas, i gynnrjchioli y tri enwad o Ymneillduwyr, sef, yr Henaduryddion, yr Annibjrnwyr, a'r Bedyddwjr, ar jt achlysur hwnw, cafodd y Cymro clodwiw hwn, Mai 28ain, 1714, yr anrhj'dedd o gjüwyno i'w Fawríiydi anerchiad gostyngedig o gyd- lawenj'chiad y pleidiau rhag-grybwylledig, ar ei esgyniad i orsedd Prydain Fawr. Er i Dr. Williams barhau wedi hyn i gyflawni dyledswyddau cyhoeddus y swydd weinidogaethol, etto yr oedd yn amlwg i bawb a'i hadwaenai fod ei nerth yn pallu; canys er ei fod yn ddyn o gyfansoddiad corphorol cryf, etto, parhaodd i ddadfeilio yn raddol, hyd nes, ar ol byr gystudd, iddo mewn ffydd gadarn, a gobaith diysgog, gj'fiwyno ei enaid i ddwylaw ei Greawdwr, a huno yn yr Arglwj'dd, Ionawr 26ain, 1716, yn saith deg tair oed. Claddwyd ei ran farwol mewn mŵd (vuult) newydd, o'i ddarpariad ei hun, yn mhlith gweddìllion cannoedd o'i frodyr Ymneillduol, ynghladdfa Meusydd Bunhill, Caerludd; a phregeth- wyd ei bregeth angladdol gan ei gyd- lafurwr a'i olynwr, y Parch. Dr. J. Evans. Ar ei gareg fedd mae bedd-argraff hirfaith, 28