Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mimm& mmmmmm. Rhif. 9.] MEDI, 1843. [Cyf. I. COFIANT Y PARCH. DANIEL WILIAMS, D.D., Gynt o Ddulyn, wedi hyny o Gaerludd. Ganwyd gwrthddryeh y Byr-gofiant hwn yn y flwyddyn 1643 neu 1644, yn nhref Wrexliam, swydd Dinbych, Gog- ledd Cymru. Yr oedd efe yn ddyn o í'eddwl cryf, by wiog, a thra chytìym ; ac, er na fwynhaodu fanteision dysg- eidiaeth i raddau mor helaeth ag y dy- munasai yn ei febyd, etto, gwnawd y diffyg hwnw, i raddau mawrion, i fynu trwy rym ei athrylith naturiol a'i ym- gais diflin am wybodaeth. Yr oedd o duedd crefyddol o'i febyd ; a dechreu- odd bregethu oddiamgylch yr hygof flwyddyn 1662. Yn rhagymadrodd ei lyfr a gyfenwir ganddo "Diffyniad y Gwirionedd Efangylaidd," y mae yn sicrhau, Mai ei brif orchwyl, er pan yr oedd yn bum mlwydd oed, oedd myfyr- io ; ac iddo gael ei drwyddedu i breg- ethu pan yr oedd yn bedair ar bymtheg oed. Treuliodd ychydig fiwyddi yn bregethwr achlysurol mewn amrywiol barthau o Loegr; a phan nad oedd fawr argoel iddo am sefyllfa fanteisiol i weinidogaethu yn mhíith y Saeson, mewn modd anmsgwyliadwy, agorodd Rhagluniaeth ddrws iddo i fod ynddef- nyddiol yn yr Iwerddon. Pan yn talu ymweliad achlysurol â'r Arglwyddes Wilbraham, yn Weston, yn swydd Amwythig, derbyniodd alwad annis- gwyliadwy i fod yn Gapían i Iarlles Meath, â'r hon ni rysodd gydsynio. Yn y sefyllfa hono, cafodd loches dawel rhag y dymmestl ag oedd yn curo ar yr Ymneillduwyr cydwybodol, ynghyd â chyfleusdra a manteision helaeth i fod o ddefnydd i'w gyd-ddynion. Wedi treulio encyd o amser yn y sefyllfa rag-grybwylledig, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys gynnulledig yn Heol y Coed (Wood-street), Dulyn, i fod yn weinidog iddynt. Cydsyniodd â chais 3^r eglwys ; a thros ugain o fiwyddi bu yn dra defnyddiol yn eu plith, yn gystal- trwy ei bregethau o'r areithfa, ei gynghorion personol syn- hwyrlawn, a'i ddylanwad helaeth yn mhlith pendefigion a dynion uwchradd- og ; trwy yr hyn y gwnaethpwyd ef, gan Dduw, yn fendith i'r eglwys ddy- oddefus yn gyffredinol. Pan yn gweinidogaethu yn Nulyn, ymunodd Mr. Wiliams mewn priodas â phendefiges o dduwioldeb hynodol, o deulu anrhydeddus, ac o fedÄiannau ehang, y rhai, fel y tystia efe yn ei lythyr-cymmun diweddaf, a ddefnydd- iodd mewn modd tra chymhedi'ol, ìnodú y gallasai wasanaethu ei genedlaeth yn well trwy gyfranu at achosion crefyddol a dyngarol, yn gystal cyn a chwedi ei ymadawiado'rbyd. Tray bu^^n Nulyn, yr oedd ei lwyddiant a'i gymmeradwy- aeth yn mhlith gweinidogion a phobl, gwỳr lleyg a gwỳr llên, uchel ac isel, yn gyfryw ag na chyrhaeddwyd gan laweroedd. Perchid ef yn fawr gan Brotestaniaid diledrith yn gyffredinol; ond, er cymmaint oedd ei barch a'i ddefnyddioldeb yn y Brif-ddinas hono, gorfuarno fel llawer o'i fiaen, eiicilio oddiyno mewn canlyniad i weithred-x iadau gorthrymus a gerwin y HywyddÉ- • iad Pabaidd yn amser Iago'r ail. Yn.y flwyddyn 1687, daeth Mr. Wiliams drosodd i Loegr ; a gwnaeth Gaerludd yn Ue ei encil a'i arosîöd, 25