Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 8.] AWST, 1843. [Cyf. I. BYR-GOFIANT Y PARCH. AMBROSE MOSTYN, O WIIEXIIAM, SWYDD DDIXBYCH. Y PATtcii. Ambrose Mostyn oedd fab y Parch. Dr. Mostyn, o'r Maesglas, ger Treffynnon, Swydd üallestr {Flint), ac felly hanai o deulu Cymreig hen a thra chyfrifol. Gwedi gadael y brif- ysgol pregethodd dros dymhor yn y Castell Coch, Swydd Drefaldwyn, fel cynnorthwywr i Mr. Powel (tebygol yr enwog Vavasor Powel), yr hwn ydoedd y pryd hwnw yn gweinidogaethu i'r eg- Iwys anghydfi'urfiol yno. Ar ol hyny, sefydlodd yn Holt, gerllaw Gwrexham, Swydd Ddinbych. Llafuriodd ynoyng- waith ei Arglwydd hyd y flwyddyn 1059, pan y symudodd i Wrexham, lle y pregethodd yn sefydlog hyd ddych- weliad y brenin Siarls, pan y rhoddodd le i'r gweinidog gorfodogedig. Symud- odd oddiyno i Swydd Rydychen, a chaíodd ei ddewis yn gnplan teuluaidd i Arglwydd Say a Seal. Trigodd yno tra y bu y pendefig íÿw, a chafodd efe a'i wraig, yr hon ydoedd anmhlant- adwy, eu parchu yn fawr f'el rhan o'r teulu. Wedi marwolaeth y pendefìg uchel-radd hwnw, aeth Mr. Mostyn i Gaerludd, Ue y cyfanneddodd gydag un Mr. Johnson, gweinidog anghyd- fFurfiol yn y ddinas hono, hyd ddydd ei farwolaeth. Cyfrifid Mr. Mostyn gan bawb a'i hadwaenai yn ysgolhaig da. ac yn ddyn tra gostyngedig a santaidd. Dywedid ei fod yn cael ei flino weithiau yn fawr gan y ddueg, neu'rpruddglwyf; a bod pethau bychain yn ei ddigaloni a'i daflu i lawr. Er enghraifft, pan yr oedd yn cydlafurio â Mr. Powel, yn y Castell Coch, dywedir iddo glywed rhyw ddynion da yn priodoli eu dych- weliad at yr Arglwydd i weinidogaeth ei gydlafurwr, fel yr achos offerynol, ac i hyny effeithio cymmaint ar ei feddwl nes peri iddoddychy mmygu nad oedd ei weinidogaeth ef o un lles i neb. Rhyw wladwr deallus ag oedd yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth ef yn fawr, yn canfod ei betrusder prudd- glwyfus, ac yn gwybod yr achos o hono, a wnaeth y sylw canlynol, i'r dyben i'w gysuro ; "Gall gwreithiwr cyffredin dori y coed i lawr, ond y crefftwr cywrain yn unig a fedr eu haddasu i'w lle priodol yn yr adeilad." Ar hyn, cyfododd Mr. Mostyn i fynu yn ddisymwth, ac mewn modd siriol dywedodd, " Yr ydwyf yn foddlon iawn os ydwyf o ryw ddefnydd." Mor werthfawr y w gair yn ei amser ! Dywedir fod pregethau Mr. Mostyn bob arnser yn sylweddol a chall, a'u bod o werth mawr ynghyfrif pawb a'u gwrandawent, ond efe ei hun ; ac yu fwy enwedigol ynghyfrif Cristionogion hen a phroftadol. Sylwir hefyd ei fod yn dra dedwydd yn ei ddawn i egluro a defnyddio Ysgrythyrau dyrus, ac yn dra gwrthwynebol i bregethau difyfyr. Yr oedd y gwr da hwn o galon dra thyner, ac yn hynod o barod i gydym- deimlo â dynion mewn cyfyngder, o ba natur bynag y byddai. Ŷr oedd ei wraig ddiweddaf, yr hon ydoedd ferch Syr E. Broughton, ac yn enwog mewn duwioldeb, yn cael ei blino yn aml gan ofnau ac amheuon ynghylch ei chyf'- lwr tragywyddol; ond etto mynych y derbyniai gysur trwy addysgiadau èi phriod. Yn llyn, yr oedd gwrthddrych ein Cofiant yn gysurwr etfeithiol i ereill, 22