Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÖÎTODM (ä^TMSìI)?» ^* IÌHIF. 7.] GORPHENAF, 1843. [Cyf. I. BYR-GOFIANT Y PAIÍCH. WTLLIAM JONES, GYNT 0 DRBF DINBYCH, GOGLEDD CYMRÜ. Biîodor o Sh Feirionydd oedd y gwr da hwn ; ond nid oes hanes o ba gẁr o honi. Wedi derhyn manteision dysg- eidiaeth, sefydlodd, ar y cyntaf, yn Rhuthyn, feî atliraw ysgol. Oddiyno, symudodd i Ddinbych ; a chafodd ei ddewis gan y Milwriad Twisleton, yn bregethwr yn y castell. Oddeutu y flwyddyn 1640 neu 1649, dewiswyd ef yu weinidog plwyfol yn y dref hono. Parhaodd flenwi y sefyllía hono hyd yr hygof flwyddyn 1662, pan y cafodd ef, yn gystal â channoedd ereill o'r gweinidogion duwiolaf a dysgedicaf yn y deymas gyfunol, eu hanalluogi i gyflawni y swydd weinidogaethol yn hŵy, mewu modd cydwybodol, yn yr eglwys wladol, trwy Weithred Un- ff'urfiaeth. Yn ílaenorol i ddyfodiad y Weithred hono yn weithredol i rym (sef Dydd Gŵyl Bartholomew, Awst 24ain, 1662), cymmerodd Mr. Jones daith i ddinas Caerludd (London), i'r dyben i ymgvnghori â'r Parchedig a'r d'uwiol Mr. liichard Bacster, a gwein- idogion ereill, ynghylch cydffurfìaeth â L'lyfry Weddì Gyffredin. Dychwel- odd yn ol wedi ei gadarnhau yn eg- wyddorion Anghydffurnaeth ; at y rhai yr oedd prif-ogwyddiad ei feddwl yn ílaenorol; a phenderfynodd eu coíieidio, a glynu wrthynt, yngwyneb pob an- fanteision. Pan y gorfodwyd ef, trwy'r We'thred Bum-fiìltiraidd (The Five Mile Act), i yniadael â thref Dinbych, cafodd encilfa gysurus yn y Plâs Teg, yn Sir Gallestr (Fiint), annedd teulu hen ac anrliydeddns y Trevoriaid, yr hon, mewn modd haehonus, a roddwyd iddo gyda thyddyn o dir, o werth ugain punt y flwyddyn, gan Mr. Trevor, perclien y île. Parhaodd i gyfanneddu yno dros amryw flwyddi, a bu farw mewn hen- aint teg, 3-11 mhentref Hope, gerllaw Caergwrle, lle hefyd y claddwyd ef, Chwefror, 1679. Pregethwyd ei bregeth angladdol gan y Parch. Dr. Morys, o Ahergele, gweinidog Cydffurfior; yr hwn ni pheidiodd a rhoddi iddo ei gan- moliaeth dyledus, ac a gyfansoddodd ei fedd-argraff, yr hwn sy fel y canlyn : "Hic exuvias religuit mortales Gul- iehnusJones,assiduus verbi divinipraeco, felici concionum fructu et pio excmplo adhuc loqiátur"-A\. y., Yma y gorwedd gweddillion marwol William Jones, pregethwr diwyd y gair dwyfol, yr hwn, yn nedwydd ffrwyth ei bregetháu a'iesiampl dduwiol,syddyn llefaruetto. Ar ol ei enciliad o'r eglwys wladol, dyoddefodd Mr. Jones dri mis 0 garcliar am y hai cywilyddus 0 ddarllen a gweddio, mewn modd teuluaidd, yn nliŷ honeddwr !! Nid ystyriai y gwr da hwn fod gwaharddiadau cyfreitniau dynol yn ddigonol i'w ryddhau ef oddiwríhy rhwymau a osodwyd arno gan Dduw, i bregethu }rr efengyl i'w gyd-hechadur- iaid. Herwydd hyn, gan nas beiddiai bregethu yn gyhoeddüs, cofleidiai boh cyfleustra a fyddai yn dyfod yn ei ffordd,. i gyflawni y weinidogaetli a dderbynodd gan yr Arglwydd, yn ddir- gelaidd. Pan yr oedd ei wraig a'i ber- thynasau yn èi gymmell i gydffurfio â'r grefydd wladol, er mwyn cynnal- iaeth ci deulu, atehodd, gan ddywed^'d, " Duw, yn ddiau, a ddarpar :" a thra- chefn, <; Ni ddaw neb o honoch gyda mi i'r farn." Yr oedd iddo ef air da gan bawh, a chan y gwirionedd ei hun. 19