Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

««lîa (a«ö3Äaiì»(Diì <^ Rhif. 5.] MAI, 1843. [Cyf. I. COFIANTAÜ. MEISTRESAU MARY AC ANNE THOMAS, Gynt o'r IIẃä, ac wedihyny, o Lantreiddyd, ger Pontyfôn, Morganwg. Dywed Solomon, fod coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig, a'i fod yn rhagori ar ei gymmydog, Diar. 10. 7," 12,26. Y mae y gwirioneddau hyn wedi bod yn eglur i'r byd yn mhob oes, ac o tan bob goruchwyliaeth ; ac y mae, yn ddiau, y parhant i fod felly, yn yr holl oesoedd dyfodol, o hyn hyd ddiwedd amser. Er fod rhai cyfiawnion uwchlaw ereill, mewn defnyddioldeb gydag acìios yr Arglwydd, etto, mae rìiai pethau yn nghymmeriad pob gwir gyfiawn, yn dangos ei ragoriaeth ar ereill o ddynol- ryw, yn gystal ag yn profi ei fod ef ei hun yn bersonol yn fendigedig: a dichon daillen ei hanes, tan fendith Duw, fod yn llesiol i'w olafiaid, pan byddo ei gorff ef wedi llwyr-gymmysgu â phridd- ellau oerion y dyffryn, yn nhŷ rhag- derfynedig pob d'yn byw. Gwrthrychau y Cofiant hwn ydynt Meistresau Mary ac Anne Thomas,gynt o'r Hŵ's, ac wedi hyny, o Lantreiddyd, ger Pontyfôn, Swydd Forganwg. Yr oeddynt yn ferched i Mr. Dafydd Tho- mas, o'r Langlone, yn mhlwyf Pìl, tyddynwr cyfrifol, a proffeswr hardd yn ei ddydd, ac yn chwiorydd i'r diweddar Barcn. John Thomas, o'r Cam, Swydd Gaerloyw ; hwy yn gystal â'u rieni a'u chwiorydd, oeddynt aelodau gwreiddiol o'r eglwys gynnulleidfaol yn Ngha's- newydd-ar-Ogwy; yn awr, yn Mhen- ybont-ar-Ogwy, Morganwg. Bu farw Mrs. Mary Thomas, dydd Mawrth, y 7fed o'r trydydd mis, 1843, yn 95 oed ; a Mrs. Anne Thomas, y dydd Llun canlynol, sef y 13eg o'r un mis, yn 92 oed. Yr oedd amryw o bethau hynot- tach ynddynt hwy na'r cyffredin o ferched Efa. Yn mhlith pethau ereill, gellir enwi, iddynt gael eu magu a'u dwyn i fynu ynghyd ; ni bu y naill na'r llall o honynt yn briod ; ni buont nemawr o ddyddiau erioed oddiwrth eu gilydd; ni bu fawr geiriau croesion rhyngddynt hwy trwy ystod hir eu hoes : iddynt farw o fewn cylch yr un wythnos ; a chael eu claddu eill dwy- oedd yn mynwent Bethesda y Fro, yn yr un bedd; lle y gorphwysant yn dawel hyd nes cano'r udgorn diweddaf, ac y dihuno preswylwyr y llwch ! Cyfiawnder â choffadwriaeth y chwi- orydd anwylaidd hyn, y w dywedyd, eu bod yn cael eu cyfrif, gan bawb a'u hadwaenent, yn y dosparth caredicaf a mwyaf cymmwynasgar o'u cydoeswyr. Yr oeddynt, bob amser, yn llawn parod- rv,ydd i wncuthur daioni i bawb ; ac ni wnaethant y niwed lleiaf i neb erioed. Yr oedd lleshau pob dyn yn hyfrydwch ganddynt; ac er, yn ddiau, iddynt ni- weidio llawer ar eu hamgyichiadau eu hunain wrth leshau ereill, etto,gofalodd Duw am danynt, a chyflawnodd ei add- ewid ynddynt—"Ni bu arnynt eisiau dim daioni." Nid y peth lleiaf nodadwy, yn mher- thynas i'r chwiorydd parclius hyn, y w iddynt fod dros hanner can mhnedd yn aelodau heirdd a defnyddiol yn yr eg- 4wys Gristionogol sydtl yn cyfarfod yn Bethesda y Fro. Ÿr oeddynt yn ffydd- lon gyda yr achos goraf, ac yn barod, bob amser, i gyfranu at bob gosodiad da, tueddoí i ledaenu terfynau y deyrn- as gyfryngol yn y byd. Yr oeddynt hefyd yn dra gofalus i gadw eu cydgyn- nuììiad eu hunain. Anaml iawn y gwelwyd eu lle hwy yn wag yn yr 13