Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORPA GYÍTÍÎULLEIDFAOL. Rhif. 61.] IONAWR, 1848. [Cyf. VI. Y GAÜAF. Yn awr mae'r gauaf yn dyfod i mewn. Dychymygaf y gwelaf ef yn ei hugan Iwyd fawr wedi ei chau i fytiu liyd at ei en ; napcyn coch o amgylch ei gég, esgidiau hyd hanner ei goes, a'i het yn wen gan eira, pibellau hinon o lâ yn hongian oddiwrth ei wallt bob ochr i'w wyneb crebachlyd, yn dod yri mlaen yn fuddugol- iaethus er cymaint oedd yn ei wrthsefyll; ac mae fel gormeswr creulon yn dwyn yr holl . wlad o dan ei lywodraeth ; dacw yn taenu ei fantell orbrudd dros holl brydferthwch creadigawl, fel na welir mwyach y rhos- ynau heirdd yn -agor eu gwefysau cochion i gusanu gwlith y borau, na'r blodau amryliw yn gwisgo y dyffrynoedd â phrydterthwch, na'r afalau melusber yn gorlenwi y perllanoedd. Mae'r huan mawreddawg oedd gynt yn ein lloni a'i wresogrwydd dymunol, yn awr yn cael ei orchuddiaw gan y du gymylau, nes ydyw goleuni y dydd yn cael ei huddo i raddau. Y goedwig er's ychydig yn ol oedd yn ddilif gan ddail, a'r rheini yn taro eu halawon peraidd yn y chwa; ond mae ef gwedi eu dihatiu, a'u gadael yn noeth i wrthsefyll ei ogleddwynt oer. Mae'r eos a'r gôg gwedi ffoi ymaith, ac mae yr holl byncwyr adeiniog eraill a'u telynau yn nghrog, yn diddelwi yn ngodrau y llwyni crinllyd, fel câr anhylon ar ol ei gyfaill trancedig. Mae'r defaid hwythau yn llechu dan gysgod y clawdd yn dorcalonus eu Hef. Nid yw ef yn tosturio dim wrth- ynt; ond mae yn taflu ei genllysg fferllyd yn dameidiau ar y ddaear, a'r eira yn gwau drwy yr entrych uwch ben, ac yn disgyn ar ein daear nes ei gorchuddio a gwrthbanau tewion. Yr afon oedd yn rhedegdrwy'r fro a'i swn soniarus a glydid yn mhell gan yr awel sydd 'nawr yn rhedeo; yn ddistaw yn gloedig drwy gafnau o tà, a'r pysg oll yn ymguddiaw yn eu llo h- esau. Y pyllau a'r ffoesydd gwedi sychu i fynu, a'r llynoedd yn ym'echu yn dawel dan eu haìarnaidd orchudd, a mantell o eira ar hyny, fel nas gellir gwahaniaeth i rhwng y dwfra'r sychJir. Yn mi» yr hwyr gwelir y cardotyn yn ymgipian tua'r daflod, ac yno yn ciaddu ei hun yn eigio'» y gwair* rhag ofn i awel lern hir nos auaf ei gael allan. Y diogyn a gîywír yn ei fwthyn adfeiliedig yn cwynó yn dost am iddo esgeuluso cyweirio ei fwthyn, a rhag-ofalu am fwyd a thanwydd yn yr hâf; am hyn yn gorfod dyoddef y gauaf. Y tlawd, yntau, yn byw fan draw mewn prinder bwyd, tan a dillad gwely, &c, pan mae'r boneddwr mewn palas hardd yn ymestyn ar ei esmwyth-fainc (sopha), ar ben pob digonedd. Fonedd- wyr a hwsmoniaid, ystynwch sefyllfa y tlawd yn nhymor y gauaf oer, drwy gyf- ranu yn helaeth tuagateu hangenrheidiau. Addysg.— Mae henaint yn cael ei gyd- maru i'r gauaf, y dyddiau blin yn y rhai y dywedir nad oes d:m dyddanwch ynddynt. Mor ddymunol yw yr olwg sydd ar y llencyn ifanc, mae yn fywiog a gorhoenus, ei ymddangosiad llednais, ac yn hardd- wch i'r gymdeithas ddynol- Ond yn ebrwydd mae gauaf henaint yn ei or- ddiwes, a'i wyntoedd croes yn chwythu arno, nes mae cydynau ei harddwch yu syrthio, ei wyneb llyfn yn crebychu, ei olygon manylgraff yn pylu, ei gefn union-syth yn crymu, yr aelodau yn an- ystwyth, a'r holl gorffyn llesg a dolurus. Ac mae ei íèddwl eang, cyflym, a threidd- gar, gwedi dirywio fel nad yw eibyn hyn