Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T DRYSORFA GYOTULLEIDFAOL. Llawer a gynniweiriant, a Gwybodaeth a amlheir /' Rhif. 74.J CHWEFROR, 1349. [Cyf. VII. COFIANT AM IR. WILLIAM LEWIS, TÛMR-IWAI, HYHTDD BYCHAN, SÍR FÔRGANWG. ' Y cyfiawn a fydd byíh niewn coíFadwriaeth.' PAIUIAD O TUDAL. 12. Fel Goruchwyliwr. Bu yn oruchwyliwr (agent) odditan bedwar o foneddigion, sef Bartiet Goodrich, Yswain, Robert Shedden, Yswain, John Shedden, Yswain, a Meistres- an Paenler. A gwasanaethodd y swydd drafferthus uchod am yspaid ugain mlynedd, yn onest a diwyrni; methwyd cael, er cymaint a gynnygiwyd, un gwall >n ei holí gyfrifon erioed. Yr oedd yn dra gofalus bob amser, mewn gosod pub petíi yn eithaf trefnus a dealladwy, fel na chawsai neb un gwall yn nghyfìawniud ei swydd. Yroedd yn wastad am gadw at y nod uchel hono sef onestrwydd. Efe a gyflawnodd y »01- chymyn a roddodd yr Arglwydd i Hezeciah gyut, i dreí'nu ei dy, ' canys marw fyddi,* ac felly yntau a wnaeth hyn niewn modd trefims iawn. Yr oedd wedi cas^lu pob peth ag oedd yn dal perlhynas â'r swydd oruchwyliaethol, yn dra ehywrain, fel na fuasai na gofid na thraffeith i ncb ar ol ei farwolacth, pob peth yn amlwg ac yn ^lir i bawb. Ac yn e; berthynas a'i amgylchiadau teuluol, bu yn dra ciiall i osod y cwbl rhwng ei ferch a'i rliai bycham. fel na adawsai cenfigen le i ymrwygo ei pherchenogion, 'Da ywcallineb i bob peth.' Mae'n betli syn meddwl fod dyn fel W. Lewis yn gallu cyfliwni y swydoî o oruchwyliwr, oblegid ni chafodd fanteision dysgeidiaeth fel llawer; ni chafodd e(e ddiwrnod 0 ysuol ddyddiol erioed, bu ychydig mewn ysgol uos; ond gallafddweyd fel y dywedodd ef' ei hun, mai trwy ei ymdiech a'i lafur ei hun y daelh efe yn gymaint o ysgolhaig ag oedd, ac nid llawer a fuasai yn myned heibio iddo mewn unihyw gyfrifoa. Yr oedd W. Lewis yn dra chyfarwydd mewn gwahanol gelfyddydau, ac yn neillduoi felly mewn amaethyddiaeth,—bu fel mynegfys i ddangos y fíòrdd i lawer 1 wneyd ea galwedigaethau, ond aml oeddynt yn gwyro oddiarnynt. Pan y biiasii efe ac eraill ya nghyd yn rhaglunio rhyw bethau, gadawsai i'w uwchraddolion i blanio, trefnu. a dyfeisio, eto cleuai a hwynt i'w gynlluniau ei hun heb yn wybod, ac heb eu tramgwyddo ti wy ddinystiio eu flyrdd hwy, a buasent mor foddlon a phe buasent wedi cael eu fTyrdd eu hunain. Hawdd y canfyddwn fod VV. Lewis yn dal masnach â'r ardal o'i gylch, os edrychwn i lyfrgell Tan-yr-iwan, yma Ile rnae Ilyfrau cyfrifon heb rifedi, rhni gweìthred- oedd tiroedd ac addoldai, a rhai ewyllysiau, &c. Ond O! pa le mae W. Lewis, yr hwn fu yn trafod y pethau hyn ? O ! hyderwn ei fod heddy w yn gorphwys yn mhurlwr ei Dad oddiwrth ei waith a'i lafur, a melus yw gorphwysdra yn ol bod yn gweithio mor galed. Ymdrechwn ddilyn ol ein blaenoriaid y rhai a aethant yn üniawn. Fel Cristion. Diau mai ' dyn Duw oedd efe,' ac mai 'trwy ras Duw oedd yr hyn ydoedd ' Yr oedd W. Lewis yn ddyn i Grist, yn ei brofiad, yn ei weddiau, yn ei dymer addfwyn a llonydd, yn ei ffyddlondeb naturiol ac ysbrydol, yn ei onestrwydd di- dwylledd, yn ei fywyd tangnefeddus, ac yn ei rodiad santaidd a gogoneddus, Yr oedd