Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wm âm^iiLa^a^ Rhif. 31.] GORPHENAF, 1845. [Cyf. III. PREGETH GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. LEWIS, D.D., CASNEWYDD-AR-WYSG. Pwysig iawn oedd swydd apostolion yr Arglwydd Iesu Grist! Gosodir allan y swydd hon mewn amrywiol o ddull- iau. Sonir am danynt weithiau fel adeiladwyr; yr oeddynt yn adeiladu eglwys i Dduw yn y byd hwn. Pre- gethwyr cyntaf yr efengyl mewn un- rhyw íe a osodent i lawr y sylfaen, a'r rhai a'u canlynent a aent yn mlaen â'r adeiladaeth. Brydiau ereill llefarent am danynt eu hunain fel llafurwyr Duw. " Myfi a blenais, Apolos a ddyfr- haodd; ond Duw a roddes y cynnydd," 1 Cor. 3.6. "Canys cydweithwyr Duw ydym ni: llafur-waith Duw, adeilad- aeth Duw ydych chwi," adn. 9. Dy- wedir hefyd eu bod yn dystion Crist, Actau 5. 32. Gelwir hwy hefyd yn oruchwylwyr dirgeledigaethau Duw, 1 Cor. 4. 1. " Felly cyfrifed dynion ni, megis gweinidogion i Grist, a goruch- wylwyr ar ddirgeledigaethau Duw." Gosodir hwy allan fel cenadau Crist, 2 Cor. Ö. 20. " Yr ydym ni yn gen- adau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwyddom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymmoder chwi â Duw." Ymddengys ei phwys yn mhellach wrth y sty ried gan b wy y der by niasant eu hawdurdod; amcan eu swydd, sef iach- awdwriaeth pechaduriaid; a'r moddion a ymddiriedasid i'w dwylaw. Yr oeddynt wedi cael eu cymmwyso at eu gwaith, ac ni allwn lai na theimlo ÿn llawen wrth feddwl am eu ffÿddlon- deb wrth ddwyn eu gwaith yn mlaen. Cawn engraifft dda o hyny yn y ben- nod hon: teithiai Paul a Barnabas lawer, a chadwen^ amcàn eu taith bob amser mewn golwg. "Aent oddiam- gylch gan wneuthur daioni." Galarus i'r fath bersonau gyfarfod â gwrthwyn- ebiad, ond nid oes genym le i ryfeddu o herwydd hyny pan ystyriom gyflwr dynion. Ni a'u cawn hwynt yn Antioch yn Pisidia yn pregethu mewn synagog Iuddewaidd; efFeithiodd yr hyn a ddy- wedasant yn ddwys ar amrywiol o u gwrandawyr; canys hwy a ganlynasant yr apostolion "y rhai a lefarasant wrthynt." I. Fodyn addas gaîw yr efengyl yn ras Duw. Yr wyf yn cymmeryd yn ganiataol mai yr efengyl a olygir yma, canys dyna yr hyn oeddynt wedi dder- byn; ac yr oedd o bwys iddynt aros ynddi. Sicr yw ei bòd mewn rhai manau yn cael ei galw wrth yr enw hwn, Actau 14. 3. "Am hyny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hŷ yn yr Arglwydd, yr hwn' oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras," &c. Mae yr enw yn addas iawn i'r efengyl: 1. Ei thestun mawr yw hi yw gras neuffafr Duw. Ni allai gynnwys un- rhyw newydd da i ddyn euog, oni bai ei bod yn hysbysu i ni fod Duw yn gyfoethog o drugaredd, a'i fod yn tueddu i ymdrin â phechadur fel Pen- arglwydd grasol. Lle y byddo dynion yn hollol ymddifad o haeddiant, ni allant gymmeryd cysur oddiwrth un- rhyw olwg arall ar Dduw ond fel un yn trugarhau wrth y neb y myno. Mae yr efengyl yn rhoddi i ni yr olwg hon arno, ac felly yn tueddu i godi disgwyliad am drugaredd mewn un a fyddo yn ystyriol o'i sefyllfa euog a digymmorth : mae hyn yn ei galonogi i weddio, "0 Dduw, bvdd drugarog 14