Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

öTOtDîaîa a™3ii3i3)îíi(!Ä* Rhif. 30.] MEHEFJN, 1843. [Cyf. III. SYLWADAU AR LYWODRAETH FOESOL, Gan y diweddar Barch. W. Williams, Wern. Wkth lywodraeth foesol yr wj'f yn deall, dull Duw yn llywodraethu moesau neu ymddygiadau creaduriaid rhesymol. Yr ydj-m yn ei henwi feliy, er ei gwahaniaethu oddiwrth lywodraeth naturiol Duw, sef y modd y mae yn llywodraetliuyr elfenau a'r ereaduriaid direswm trwy gyfreithiau natur a greddfau. Y dull y niae moesau y rhan ddeallawl o'r greadigaeth yn cael eu Ilyw- odraethu yw, trwy weinidogaeth moddion moesol, sef cymmelliadau, deniadau, a byg- ythion. Iaith Duw yn y Iywodraeth foesol yw, " Dangosaf i ti ddyn yr hyn sydd dda." Er egluro natur y lywodraeth hon, gellir golygu— 1. Fod yr holl fodau deallawl yn y hyd- j'sawd yn cyfansoddi un gymdeithas fawr, aç i fod y fath gyssyHtiad rhyngddynt â'u gilydd fel y maefmddygiad pob un o ddechreu y byd hyd êi ddiwedd yn effeithio yn dda neu yn ddrwg ar y gj'mdeithas oll, jn ol y sefyllfa y maent yn sefyll ynddi. Y berthynas hon sydd rhwng dynolryw â'u gilydd, ydyw un o'r dangosiadau crŷfaf o'r angenrheidrwydd am farn gyffredinol. Y mae rhai wedi dechreu arferiadau drwg, ac eraill wedi eu trosglwyddo yn mlaen o gen- hedlaeth i genhedlaeth ; pan, o'r tu arall, y mae rhai wedi ymdrechu codi arferiadau da, ac eraill wedi Ilafurio i'w cynnal o oes i oes er lles y gymdeithas. Yn awr, tuag at 1 bob un gael derbyn yn ol ei weithred- oedd, rhaid galw rhyw gyfarfod cyffredinol i osod holl aelodau y gymdeithas.o ddechreu Y byd hyd ei ddiwedd, i sefyll wyneb yn wyneb. J f'jYr- hjn sy(ì(i yn cyfanSoddi un yn aelod o'r gymdeithas hon yw, yn gyntáf, Mwynhad gweinidogaeth moddion moesol. *n ail, Gallu i amgyffred natur y gwrth- jarycbau a osodir gef hron. Yn "drydydd, «ailu i garu yr hyn sydd brydferth, a cnasnau yr hyn sydd anmhrydferth ; yr hyn yn yr ysgrythyr a elwir calon, am mai hyn yw ffynnonellgweithrediadyi enaid,felmae y galon naturiolyn ffynnonell gweithrediad y gwaed. Ac yn 4ydd, Rhyddid i ddewis, fod dim o'r tuallan yn gwthio y galon i ddewis y drwg na dim yn ei rhwystro i ddewis y da. Dyma sylfeini cyfrifoldeb dyn Y maent fel pedair craig dragywyddol nas dichon i bechod byth eu dadymchwelyd, ac na bydd byth eisiau gras i'w hadgyweirio. 3. Gan mai Du^v a ffurfiodd y gymdeithas hon, ac mai efe yw y rhan fwyaf o honi yn nghlorian bodolaeth, fod hyn o angenrheid- rwydd hanfodol yn ei gjfansoddi yn Lìyw- ycíd iddi. Y mae efe i ofalu am ddedwydd- wch y gymdeithas; o ganlyniad, nis gall fod yn edrychwT difater ar ymddygiadau ei haelodau heb fod yn anffyddlon i'w ym- ddiried. 4. Y ddeddf foesol ydyw rheol dedwydd- wch y gymdeithas. Cydymffurfiad â'r Erth- yglau cynwysedig j-nddi ydyw dedwyddwch y gymdeithas, ondy mae anghydffurfiad yn milwrio yn uniongyrchol yn erbyn ei ded- wyddwch. 5. Rhaid fod pechod yn taro ya erbyn dedwyddwch a bodolaeth y gymdeithas ; ac yn erbyn pob aelod o honi yn ol maintioli éi fodofaeth. Ond, 6. Mae pechod, mewn dwy ystyr, yn taro mwy yn erbyn Dum' nagyn erbyn nebarall, ain ei fod ef yn anfeidrol fwy na phawb yn nghlorian bòdolaeth, a'i fod hefyd o ran swydd yn Llywydd y gymdeithas. Fel Pen-Ilywydd bodolaeth, y mae bob amser yn gweitîiredu yn ei swydd yn enw a thros yr holl gymdeithas:' ac mae o bwys mawr i ni ystyried mai nid sarhad dirgelaidd (prirate injury) yn erbyn Duw yw pechod, ond ei fod yn 'sarhad cyhoeddus jn taro yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol. 7. Fel Pen llywydd bodolaeth, y mae Duw yn cospi troseddwyr anedifeiriol, acyn 16