Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

t»â(D» OTMlìâföîàíDî ^é^ Rhif. 28.] EBRÍLL, 1845. [Cyf. IIL PREGETH. " Geiriau Lemuel frenin ; y brophwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo. Pa beth fy mab ? pa beth mab fy nghroth ? ie, pa beth mab fy addunedau ? Na ddyro i wragedd dy nerth ; na'th ffyrdd i'r hyn a ddiffetha freninoedd. Nid gweddaidd i freninoedd, O Lemuel, nid gwed'daidd i freninoedd yfed gwín; nac i bennaduriaid ddiod gadarn : rhag iddynt yfed ae ebargofi'r ddeddf, a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig."—Diar 31. 1—5. Mr. Gol.,—Yr ydwyf yn dymuno ymostwng i farn y cyfeillion yn Ebenezer, Sirhowy, trwy gyduno fi'u cais i anfon i'r Drysorfa, sylwedd Pregeth i'r Mamau, a draddodwyd yn nghyfarfod Undeb Ysgolion Dospartli Uehaf Mynwy. M. Ellis. Dywedodd un gweinidog enwog i Iesu Grist, yn Lloegr, mai'r funud fwyaf difrifol a aeth erioed dros ei feddwl, oedd y funud y deallodd ei fod yn dad: nid llai pwysig ydyw bod yn fam, yr hwn enw sydd yn swnio yn anwyl a hoff i glust pob creadur rhesymol. Mae pob un a gafodd yr enw parchus ac anrhydeddus hwn, wedi rhoddi gen- edigaeth i fòd anfarwol ag a fydd i allan fy w y greadigaeth fawr ei hun. Anhawdd penderfynu pwy oedd mam Lemuel, ond eglur y w mai mam dduwiol iawn oedd, yn dangos gofal neillduol am ffurfio nodwedd ei mab yn fore, gan ei roddi ar ei ocheliad rhag y ddau brif bechod sydd wedi profiyn ddinystr igan mwyaf o ieuenctyd pob oes, sef meddw- dod ac anlladrwydd. Mae y naill yn arwain i'r llall yn gyffredin. Mae yn hywadl a chyffrous yn ei hyfforddiad, " 'Pa beth, fỳ mab ? Pa beth, mab fy nghroth ? 'ie, pa beth, mab fy adduned- au ?' Mae yma glwm ar glwm, yn fy rhwymo i'th rybuddio ac ymdrechu i'th gael i ymadael â llwybrau pechod." Mae'r serchiadau mamawl yn cael eu harllwysi'wgalon gydadeheudermawr. Fel pe dy wedai, Mae yn rhaid i mi gael dy wedyd a chynghori fy mab Lemuel, neu wadu mai md myfi ydyw y wraig sydd yn sefyll yn y rhwymau tyner hyu. Nodir— I. Ei bod yn ddyledswyddarbenig ar famau i roddi addysg crefyddol i'w plant. 1. Gan y fam y mae y cyfleusdra cyntaf i addysyu. Mae y Duw da, i ddybenion pwysig, wedi trefni fod y plant i aros yspaid maith o amser dan ofal y fam. Ni bydd y ferch na'r mab, dros o ddeg ì ddeuddeg o ffynyddau, o leiaf, yn gymmwys ì gymmeryd i fynu â chelfyddyd neu alwad er gwneuthur drostynt ei hun yn y byd. Mae yn dra gwahanol i hyn gydag epil y creadur- ìaid afresymol. Gyda y rhai hyn, yn mhen ychydig ddyddiau neu wythnoa- au, nis gwyddant ragor rhwng eu mam a rhyw un arall o'r un rhywogaeth. Ond nid felly yn mhlith y teulu dynol. Gosododd y Creadwr mawr yr an- allu hwn ar yr hil ddynol, er rhoddi cyfieusdra a mantais i ddisgyblu y meddwl, a'i hyfforddi yn y pethau a berthyn i'w heddwch. Nid ychydig ydyw braint y fam i gael y llaw flaenaf i addysgu, cyn i'r byd ddod yn mlaen â'i addysgiadau drwg, a'i esiamplau pechadurus. 2. Mae gan y famfwy o gyfleusdei'au i addysgu na neb arall. Nid oes gan y tad, o angenrheidrwydd pethau, yr un cyfleusdra ihyfforddi y meddwl plent- ynaidd ag sydd gan y fam. Nid oes na dydd, nac awr o'r dydd, nad oes gan y fam gyfieusdra i roddi rhyw addysg buddiol. Oddiar ei mynych orchym- ynion, mae ganddi gyfleusdra hynod i ddysgu yr hyn sydd yn hanfodol i nod- wedd gwir dda, sef ufudd-dod a gos- tyngeiddrwydd. Os ychydig a ail y 10