Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ra$«a -ai?iaaDì[L3©îa(!Äç RíIIF. 26.] CHWEFROR, 1845. [Cyf. III. FOD SEFYDLIADAU GWLADWRIAETHOL 0 GREFYDD YN TARO YN ERBYN AWDURDOD DWYFOL YR YSGRYTHYRAU. Pa fodd y daeth dynion gwir gristionogol i dybio fod nodded yr awduidod wladol yn angenrheidiol i fodolaeth y grcfydd sydd wedi ei seilio ar graig yr oesoedd, sydd un o'r pethau niwyaf anhawdd ei amgyffred. Ond er na allwn ddeall pa fodd y daeth rìynion da i gofleidio tyhiau mor estronol, yr ydym yn canfod yn eglur, yn y dwyfoí Mirionedd, mai dyledswydd pob un syddyn mlnabod Crist fel unig Ddeddfwr aBrenin S'ion—y deyrnas nad yw o'r byd hwn—yw gwneud ei oreu i ryddhau crefydd oddiwrth lyffetheiriau mor niweidiol, a chyssylltiadau mor anachaidd. Yr ydym yn credu fod y ddyledswydd hon wedi ei seilio ar hanfod Cristionogaeth, a bod coleddu amheuaeth o'r ffaith yn arwain yn anocheladwy i am- heuaeth o Gristionogaeth ei hun ; a bod yr holl wrthddadleuon a godir yn erbyn yr egwyddor hon yn cynnwysamheuaeth o, ac anymddiried yn Nghristionogaeth y Bibl, ynghyd â gwadiad ymarferol o'r gwirionedd ei hun. Yn nesaf at bwysigrwydd yr egwyddor dan sylw, yw yr awdurdod ar yr hon yr ydym i orpliwys ein cred, a'r rheol wrth yr hon yr ydym i ffurfio ein harferiadau cref- yddol. Byddai gwadu yr awdurdod a rodd- odd Duw," neu fabwysiadu fel rheol y peth na chymmeradwywyd gan yr Arglwydd, yn niweidiol i achos Crist, ac yn ddinystriol i'n heneidiau ninnau. Rhaid, gan hyny, fod y pwnc yn bwysig, ac yn deilwng o'n hymchwiliad manylaf,ynghyd â'ngweddiau taeraf, rhag i ni wrrthod yr awdurdod a roddodd Duw i ni, a derbyn fel awdurdod jr hyn y bydd y Barnwr yn y dydd olaf yn gondemnio, fel peth annheilwng o'n hymostyngiad. Sonia y testun am— DDWYFOL AWDURDOD Y BIBL. Nid ydym yn y Traethawd hwn yn bwr- iadu profí dwyfol ysbiydoliaeth yr ỳsgryth- yrau, neu y Bibl; oblegid addeíír hyny'gan bob plaid yn y ddadl hon ; canys nid â Deistiaid, y rhai sydd yn gwadu dwyfoldeb y Bibl yr ydym yn ymwneyd yn bresennol. Y pleidiau yn y ddatîl hon yw y rhai sjdd yn addef dwyfol ysbrydoljaeth y Bibl, a'r peth yr ymchwilir iddo yw, Pa un a ydyw yr ysgrythyrau yn honi iddynt eu hunain awd- urdod ddwyfol yn mhob pwnc o ffydd ac ymarferiad, ai nad ydynt ? Md ocs genym le i droi am brofion o'r pwnc hwn, ond i'r gyfrol santaidd ei Imn; ond uedi troi i Jiono, ni a gawnýody Dibl, o'i ddechreu i'w ddiwedd, nid yn unig yn honi awdurdod ddwyfol, ond, hefyd, mai efe yw yr tjnig awdurdod anffaeledig mewn pethau cref- yddol. Moses oedd y cyntaf a ddefnyddiodd Duw i roddi i ni ddatguddiad ysgrifenedig o'i ewyllys ; ac o'r amser hwnw yn mlaen, ni a gawn fod y gair a dderbyniodd Aloses oddiwrth Dduw yn cael ei drosglwyddo i'r bobl fel yr awdurdod uchaf. Yn union ar ol mamolaeth Aloses, y mae Josuah yn cael ei anerch gan Dduw fel hyn : "Moses fy ngwas a fu farw, gan hyny cyfod yn awr, dos dros yr íorddonen hon, ti a'r lioll bobl hyn i'r wlad yr ydwyfyn ei rhoddi iddynt h wy meibion Israel.—Nag ymadawed llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr myfyriaynddo ddydd a nos, fel y cedwych er wneuthur yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo.—Ymwr- oîwch yn lewi gadw ac i wneuthur y cwbl syfld ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, fêl na chilioch oddiwrthynt tua'r llaw dde- hau na thua'r llaw aswy."