Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ras»a ara^sfâíÄ Rhif. 12.] RHÀGFYR, 1844. [Cyf. IL PARHAD COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. JOHN PHILLIPS, DREWEN, SWYDD ABEBTEIFI. Bu Mr. P. yn foddion i sefydlu achos newydd yn agos i Bontarseli, lle y cododd addoldy newydd, a elwir Bryn Sion. Dan- gosodd yr ardalwyr garedigrwydd a ffydd- londeb mawr tuag at y deml newydd, a hyny i raddau o herwydd y cariad oedd ganddynt at Mr. P. fel person, yn nghyd a'r llawenydd oedd ganddynt i gael lle cyfleus i wrando ei weinidogaeth. Mae yno yn awr lawer o aelodau. Yr oedd ganddo fedrusrwydd mawr fel dyn ieuanc i drin pynciau dyrus, ac athrawiaethau dyfn- ion ; ac ar yr un pryd medrai roddi llaeth i'r gwan. Nid yn aml y ceid neb mor fedrus i amlygu pethau dyrus, ac hefyd mor llawn o ädawn poblogaidd ag~ydoedd efe. Medrai daranu a chyhoeddi y farn, nes dychrynu yr annuwiol; a dyrchafai ei lais fel udgorn wrth gyhoeddi anchwiliadwy olud Crist, nes Hamai y saint o lawenydd. Ei hoff destun oedd Crist a'i groes, ac nid anhawdd fyddai gweled Mr. P., pan yn ei hwyliau goreu, yn bras-gamu tua Chal- faria, ac yn troi o gylch y groes; a buan y clywid ef yn dadleu annherfynol haeddiant yr Aberth mawr, yn ngjjÿd âg anfeidrol rinwedd y gwaed dwyfoí ar gyfer y pechadur gwaethaf. fil ddiwahan i gredu ynjÈ olygiadau ar wahanol 1 oleu a iachus. Ffieíìl .. „ athrawiaeth a dueddai ì arwain y weriiÉfc Antinomiaeth, ac i anmharchu yr Aberth roawr; ac aw|ddai bob amser i amddiffyn cymmeriad Duw, a dangosai yn amlwg fod y bai yn gorphwys wrth ddrws y pecbadur ei hun. Yr oedd yn awyddu cadw golwg yn ei holl weinidogaeth ar ddaubeth.jn neillduol, sef—-Pod cadwedigaeth yn gẃbi o Dduw, a chblledigaeth yn gwbl o'r dyn, Yr oedd gyda golwg a'r bethau allanol ac amgylchŴî erefydd, yn anymddibynaidd yi " ellai bawb yn ìuí:ì. Yroeddei pnciau crefydd yn íai yn fawr bofc iawn: carai i'r gwanaf a'r tlotaf, fel y cyfoethocaf yn yr eglwys, gael yr un chwareu-têg. Yr oedd ganddo ddawn mwy na'r cyffredin i ymddwyn yn gall yn mhob math o deuluoedd, ac i ennill eu meddyliau i'w garu a'i barchu. Wrth ystyried byrdra yr amser a dreuliodd yn y Drewen, gellir dyivedyd iddo ennill parch mawr gan yr holl werin; perchid ef gan y boneddigion penaf, a chai dderbyniad groesawus i'w tai. Diau genyf pe cawsai Mr. P. oes hir, ac iddo gynyddu fel y " cynyddodd yn yr ysbaid byr a gafodd, y buasai gyda'r blaenaf o'i frodyr ar y maes.—Ac er ei fod o ran synwyr a dysg yn alluog a chymwys i fod yn nghyfeillach yr uchaf o'i frodyr yn y weinidogaeth; etto, dangosai y fáth ostyngeiddrwydd a hunanymwadiad fel y gwelai ei frodyr o ladd isel mor gynted a neb.—Arwydd hynod o falchder a hunanoldeb, ac ym- ddygiad cwbl annhebyg i Iesu Grist yw, fod neb, a broffesa ei'ífcun yn ddysgybl i'r Hwn oedd addfwyn a gostyngedig o galon, yn ymddwyn mor ddisylw o frawd o radd isel a phe bai heb ei weled a'i lygaid— Ffieiddied holl weinidogion Ci-ist y cyf- ryw ymddygiad. Er mai Trewen a Bryn Sion oedd ter- ẀTiau cylch defnyddioldeb Mr. P. yn benaf, So yr oedd o ysbryd cyhoeddus iawn;—- byddai yn ymweled yn aml â'r eglwysi cymmydogaethol—a theithiodd gryn dippyn yn yspaid ei oes fer. A diau na hoffai yr eglwysi a'i hadweinai neb gweinidogion ieuainc yn fwy nag ef. Dywedai un cyfaill synwjTol wrthyf unwaith, yr hwn nad oedd yn byw gan milltir o Hawen, nad oedd onfl Mr. * P. ac un arall yn Sir Aberteifi a fedrai bregethu athrawiaethau gyda chyi- ondeb a medrusrwydd. A gwn am éraîfi a edrycbent arno gyda'r goreu-o'r Esgobion 34