Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ILlîJi Rhif. 11.] TACHWEDD, 1844. [Cyf. II. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. JOHN PHILLIPS, DREWEN, SWYDD A.BERTEIFI. Arfeuiad da a chanmolad wy iawn yn y byd, yw cadw mewn cof bob peth da a rhinweddol mewn natur, ac yn neill- duol mewn crefydd; mae tuedd yn hyn i ennyn rhinwedd lle nad yw, a'i fekh- rin lle y mae. O bob peth mewn hanesyddiaeth anysbrydoledig, nid oes dim yn fwy difyr i'r meddwi duwiol na darllen hanesyddiaeth bywydau dynion duwiol a llafurus yngwinllan Iesu Grist. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Wrth osod hanesyddiaeth bywydau dymion da gerbron y byd, nid wyf yn deall fod arnom rwymau, yn wyneb un ddeddf, i nodi a chyhoeddi eu gwendidau a'u hanmherffeithderau, er bod yn wybodus o honynt. A phe baid yn peidio ysgrifenu hanesyddiaeth neb, hyd nes 'ceid bucheddiad pur a difrycheulyd, ni byddai angen rhoddi pin ar bapur byth, oblegid "nid oes neb cyfiawn, nac oes un." Felly, wrth fyned i son am fywyd byr fy mrawd trancedig, nid wyf yn golygu nad oedd ynddo ef, fel pawb o'i frodyjÿ lawer o ffaeleddau a gwendidau; ond ymdrech- af, yn y Cofiant hwn, gadw fy mhin yn îlaw egwyddor cariad, yr hwn a guddia liaws o bechodau. Amcanaf yn bresennol, yn ol yr egwyddorion uchod, roddi darluniad cywir o wrthddrych y Cofiant hwn. Hanodd fy ngyfaill ymadawedig o rieni crefyddol a duwiol, sef y diweddar Barch. T. Phillips, D.D., Neuaddlwyd, a Mary eir wraig. Cawsant naw o blant, pump o feibion a phedair o ferch- ed; John oedd y mab hynaf,—yr oedd dwy chwaer yn hŷn. Nid un o freint- iau lleiaf plant, y w ìddynt gael eu geni o rieni fyddo yn ofni Duw, ac yn cüio oddiwrth ddrwg, a chael eu magu Vu dwyn i fynu yngwybodaeth o grefydd Crist. Yr oedd fy mrawd John yn edrych yn fawr ar hyn; a llawer gwaith y clywais ef o'r pwlpud, wrth anerch. ei gyd-ieuenct3rd, yn son am hyn fel un o ragorfreintiau penaf plant, ac yn diolch i Dduw iddo ef gael y rhagor- fraint hon. Cafodd Mr. John Phillips ei eni yn Penybank, yn mhlwyf fíen- fenyw, Sir Aberteifi, dydd Sabbath, y 30ain o Fehefin, rhwng un a dau-o'r gloch yn y prydnawn, yn y flwyddyn 1805. Dyma lle ganed ei frodyr a'i chwiorydd, oddieithr ei ddwy chwaer hynaf/ Er fod ei barchedig dad yn cadw cymundeb yn Llanbadarn-fawr y Sabboth y cafodd John ei eni, etto gofalodd ei Dad nefol am dano ef a'í dirion fam jrn yr amgylchiad, fel nad oedd yno ddim yn neillduol yn galw am gymmorth tad naturiol. Mae Duw yn dda yn absennoldeb pawb, ac nid dichonadwy fod dim o du Dduw yn rhwystr iddo roddi ei bresenoldeb a'i wenau mewn caledi. Y Parch. Ben- jamin Evans, o'r Drewen, a'i bedydd- iodd, yr hwn oedd gyfaill mwy na'r cyffredin gan ei barchedig dad a'i fam. Ÿchydig oedd yr hen batriarch duwiol yn feddwl wrth fedyddio John, ei fod yn bedyddio gweinidog i'r Drewen, Yr oedd Mr. P. pan yn blentyn yn garuaidd iawrn, ac felly yn cael ei garu gan bawb : yr oedd o dymher hynod fwyn a hynaws, a pharhaodd felly trwy ei oes. Nid byth y clywid ef yn ìy~ wedyd celwydd, ac, anfynych iawn y gwelid arwyddion o anufudd-dod ynddo 31