Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÖTO(D2?a MüîDllSCfâîa^ Rhif. 10.] HYDREF, 1844. [Cyf. II. BYR-GOFIANT ELIZABETH EDMONDS, 0 Felin Llanddeuddan, gerllaw y Bontfam. Ee gosod duwiolion yn y bedd i bydru o ran eu cyrpb, etto mae yn gweddu i'vr henwau gael eu cofrestru, fel y byddo i waith gras gael ei amlygu, i grefydd gael ei gwerthfawrogi, a phawb i gael eu dwyn i hiraethu am fod yn feddiannwyr arni. Gwrthddrych yr hanes hon yw Eli- zabeth Edmonds, gweddw y diweddar Harri Edmonds, o Felin Llanddeuddan. Mae amryw bethau ag oedd wedi cyf- arfod yn y gwr a'r wraig hyn, ag sydd yn teiíyngu cael eu codi i sylwyr oesau dyfodol. Mae yn debyg iddynt gael eu geni a'u dwyn i fynu yn agos, os nid yn yr un gymmydogaeth. Cawsant eu dysgu ill dau gan eu rhieni i ymwrthod ag arferiadau llygredig yr oes yr oedd- ent yn byw ynddi, fel yr oeddent yn rhagori ar y rhan fwyaf o ieuenctyd eu hoes, mewn symlrwydd, moesoldeb, di wydrwydd, ac awydd i wrandaw yr efengyl yn cael ei phregethu. Ond er eu bod hwy yn rhagori ar y rhan fwy- af o'u cyfoedion mewn moesoldeb a rhinwedd, etto, darfu iddynt dreulio llawer o'r tymhor mwyaf manteisiol i fod o ddefnydd gydag achos Crist, sef dyddiau eu ieuenctyd, heb roddi eu hysgwyddau yn gyflawn dan arch Duw Israel, er iddynt gael y fraint o wneud hyny yn foreuach na'r rhan fwyaf yr amser hyny. Darfu iddynt gael eu tueddu, ill dau, i droi eu w^ynebau i eglwys Dduw yn agos yr un amser, pan oeddent o bump i wyth ar hugain oed. Yn fuan wedi hyn, darfu iddynt ymuno tnewn cwlwm priodasol, a threfnwyd iddynt gan eu Duw, yn ei ddoeth Rhagluniaeth, ddy- fod i breswylio i ardal y Bontfaen; ac, yn mhen ychydig flynyddoedd, daeth- ant i Llanddeuddan, lle darfu iddynt dreulio y gweddill o ddyddiau eu hoes, mewn cysur a thawelwch, ac â gair da iddynt gan bawb a'i hadwaenent; ac mae yn fwy na thebyg y gellir chwan- egu, 'heb ryfygu, "a chan y gwirionedd ei hun." Bu iddynt bump o blant, séf pedair merch ac un mab ; dau o ba rai, sef mab a merch, pan yn ieuainc, fuant feirw, ac a gladdwyd yn mynwent eg- lwys Llanddeuddan; acmaeytairarall yn aros hyd heddyw : enwau pa rai yd- ynt Mary, Rebecca, ac Elizabeth. Mae ŷr olaf yn wraig y Parch. W Griffiths, Llanharan. Cawsant fraint na chadd llawero rieni duwiol, er hiraethu llawer am hyny, sef gweled eu plant, cyn eu marwolaeth, wedi ymresu dan faner Iesu Grist,—un yn Bethesda y Fro, a'r ddwy aralí yn y Maendy; a dymuniad. diffuant ysgrifenydd y llinelhiu hyn, yw iddynt ymnerthu yn y gras sydd yn Nghrist, modd y byddo iddynt barhau yn ffyddlon hyd y diwedd, a chael mynedfa helaeth i ogoniant pan bydd- ont yn ymadael â'r fuchedd hon. Nid oedd fawr o ddrysau agored, os oedd un, i dderbyn cenhadon heddwch i gynyg iachawdwriaeth i bechaduriaid colledig yn ardal Llanddeuddan, pan ddaethant hwy yno. Ond darfu iddynt hwy agoryd drws i'r efengyl, a rhoi derbyniad groesawgar i arch Duw Israel yn eu tŷ. Bu y Parch. T. Ẁil- liams, Bethesda, yn pregethu yno yn fisol, ac, weithiau, yn amlach. Ỳr oedd cyfarfod gweddi vn cael ei gadw yno bob -28