Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 7.] GORPHENAF, 1844. [Cyf. II. DWYFOLDEB YR YSGRYTHYRAU. Y mae sefyJlfa y byd eilun-addolgar yn dangos, ar y naill llaw, fod tuedd naturiol mewn dynolryw i addoli Creawdwr mawr y bydoedd ; ac, ar y llaw arall, nas gellir ei addoîi ef yn iawn, heb gael datguddiad o'i ewyllys. Nid ydym ni, y rhai sydd yn credu fod y cyfryw ewyllys wedi ei ddatguddio i'r byd, yn meddwl fod y Bibl wedi disgyn yn uniongyrchol o'r nef, ac nidydym,ychwaith, yn tybied i'r holl eiriau hyn gael eu liefaru yn ddigyfrwng gan Dduw. Nid mewn un oes, ac nid mewn un wlad, yr hyspyswyd y cwbl, ac nid trwy yr un llwybr y cynhyrf- wyd yr ysgrifenwyr. Hefyd, nid ydyui yn ystyried ei fod yu anmhosibl i gyrhaedd gwybodaeth am unrhyw hanesyn ysgryth- yrol oni bai ysbrydoliaeth ; oblegid y mae gwledydd, sydd heb yr Ysgrythyrau, wedi dyfod i wybod fod diluw wedi bod ar y ddaear— fod adeiladu twr yn achlysur i'r (joruchaf gymmysgu ieithoedd y byd—fod yr Israeliaid wedi myned trwy y Môr Coch ar dir sych—a bod Jona wedi ei lyncu gan bysgodyn. Ond os yw yr hanesion hyn yn wir, ac os dygwyd hwy oddiamgylch trwy offerynoliaeth dwyfol allu, yna y maent yn profi, ar yr un pryd, wirionedd athraw- iaethau y Bibl, oblegid dyben cyflawniad y gwyrthiau hyn ydoedd, fel y gwelai yr edrychwyr fod y Duwdod yn "llywodraethu yn mhreniniaeth dyiüon," ac y "gwna Barnydd yr holl ddaear farn." Gadewch ni, gan hyny, olrhain y seiliau a ddengys gywirdeb hanesyddiaeth y Bibí. Meddyliwnam yr Iuddew sydd yn teithio yn ol acyn mlaen ar hyd Gymru, yn siarad yr iaith yr ysgrifenwyd yr Hen Destament gyntaf, yn galw Abraham yn dad iddo, a Mosesyn athraw; yn proffesuyr un grefydd ft Josuah a Samuel—yn cadw yr un Sab- bothau, yr un gŵyliau arbenig—yn cynnal coffadwriaeth am yr un amgylchiadau hynod, ac yn parhau i ddisgwyl, er yn ofer, am yr un Messiah ag yr ysgrifenodd Moses a'r prophwydi am dano; a fyddai hyn yn bosibl pe na bai hanes y genedl yn wirion- eddol ? A fyddai yn bosibl i un dyn ber- swadio cenedl gyfan o bobl i gredu mai efe ocdd yr offeryn yn llaw Duw i'w tywys allan o'r Aipht, a'u harwain trwy y Môr Coch, a'u porthi yn yr anialwch â manna o'r nef, nes i'r bobl osod i fynu ŵyliau blynyddol er cof am y digwyddiadau hyn, pa rai a drosglwyddir o genedlaeth i gen- edlaeth fel gosodiadau dwyfol; ac os na chymmerodd yr hyn a bortreiadir le, pwy glywodd am y fath hudoliaeth ? Os nad Moses oedd y gwr a roddodd i feibion Israel y deddfau a'r barnedigaethau, pwy dwyllodd y genedl i gredu hyny o oes i oes ? Os oedd y prophwydi yn cyhoeddi pethau croes i'w hewyllys eu hunain, ac yn wrthwyneb i ewyllys eu gwrandawyr, pa fodd y dywedir mai nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt bro- phwydoliaeth ? Ôs na fu cadwraeth y Sabboth erioed yn orchymynedig gan y Creawdwr, beth mewn natur a allai dueddu y rhan amlaf o deyrnasoedd y byd i gysegru un diwrnod o bob saith at ei addoli ef? Pa fodd y daeth yr efengyí mor fuan i