Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GfâTO» (ärawMaaöî&tûî a^ Rhif. 1.] IONAWR, 1844. [Cyf. II. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. EDWARD WILIAMS, D.D., À iìtroAi; Dawinj/ddol y Coleg Cynnulhidfaol, Rotherham, Swydd Caer-Efroc. Ganwyd y gwr mawr a duwiol hwn, yn Nglan-Clwyd, yn agos i dref Dinbych, Gogledd Cymru, Tacli. 14, 1751. Nid oedd ei fanteision erefyddol yn ei febyd yn lielaeth, gan nad oedd ei rieni, er eu bod yn ddynion moesol, yn gwybod fawr am grefydd yn mhellach na'r ffurf. Ond, er hyny, yr oedd Edward, fel y rhan amlaf o'r dynion enwog a defnyddiol yn eglwys Dduw yn mhob oes, yn ddeÜiad argraffiadau crefyddol o'i febyd. Hyn, tebygol, mewn cys- sylltiad â'i duedd-fryd at ddysgeid- iaeth, oedd yr achlysur i'w dad feddwl am ei ddwyn ef i fynu i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Wladol. I'r dyben hwn, derbyniodd addysg ieithadurol ynLlan- elwy ; a chafodd ei osod wedi hyny dan arolygiad gwr llênawg, i'w barotoi ifyned i brif ysgol Rhydychen. Ond, nid hyn oedd trefn Duw gyda golwg arno ef. Oddiamgylch yr amser hwn, dechreuodd Wiliams ieuanc feddwl yn sobr a difrifol, ynghylch natur a thel- erau Cydffurfiaeth; a pha fwyaf y meddyliai am danynt, yn eu cyssylltiad â'r Testament Newydd, pellaf i gyd yr oedd yn cael ei hunan oddiwrth ei cof- leidio. Y canlyniad o hyn ydoedd iddo fwrw ei goelbren yn mhlith yr Anni- bynwyr, a thrwy hyny colli heddwch ei dad. Wedi ei dderbynynaelod eglwysig yn Ninbych, cafodd ei dderbyn i'r Àth- rofaGrynnulleidfaol, yr hon oedd y pryd hwnw tan arolygiad y diweddar Dr. Davies, yn y Fenni. Cymmerodd hyn le yn y flwyddyn 1771. Wedi treulio yr aniser arferol yn yr Athrofa, der- byniodd alwad oddiwrth yr Eglwys Gynnulleidfaol, yn Ross, Swydd Here- ford; a chafodd ei urddo yno i gyf- lawn waith y weinidogaeth, yn 1776. Parhaodd i weinidogaethu yno hyd y flwyddyn 1781, pan symudodd i Groes- yswallt, yn Sir Amwythig; lle, mewn cyssylltiad â'i ddyledswyddau gwein- idogaethol,3'-r arolygodd addysgiadych- ydig o wŷr ieuainc, gyda golwg ar waith y weinidogaeth. A.r fudiad y Dr. Davies, o'r Fenni, i Homerton, cafodd Mr. Wiliams ei ddewis yn Athraw Duwinyddol, yn ei le ef; 'a'r Athrofa ei symud o'r Fenni, i Groesyswallt, a'i huno â'r un ag oedd eisioes yno. Par- haodd Mr. WTüiams i arolygu y sefyd- liad unol hwn,mewn modd boddhaol i'w noddwyr, hydyflwydd}m 1791; pauy rhoddodd ei swydd i fynu, o herwydd iselder ei iech}rd, ac yr aeth yn weiiíid- ogi'r eglwys gynnulledig yn HeolCarr, yn Birmingham. Oddiamgylch ypryd hwn yn gydnabyddiaeth o'i ddysgeid- iaeth, talentau, ac ysgrifeniadau, ac mewn canlyniad i bregeth a gyhoedd- odd ar Gal. 6. 14, cafodd, mewn modd hollol annisgwyliadw}'-, ei raddio yn Ddoctor Duwinyddiaeth, gan brif ysgol Eiddin, yn yr Alban. Daeth eyfaill â'r Gazette ato, yn cjmnwys hybysiad o hyny ; a chwedi iddo ei ddarllen, rhoddodd ef yn ol i'r dugydd, gan ddy- wedyd, "Boed hynyfel y byddo,glynaf fi etto wrth fy nhestyn—Na ato Duw i mi ymffrostio, ond yn nghroes ein Har- glwydd Iesu Grist." Wedi treulio pedair blynedd yn Bir- mingham, derbyniodd y Dr. Wiliams alwad o Rotherham, ger Sheflield, yn