Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BANER Y GROES. Rhif. 11. HYDREF, 1855. Cyf. 1. Befots eu (Efoeímìîûçjton eu î^unam. Dyma arferiad yr Anyinddibynwŷr; ond gwrthwynebir hwy gan lawer gyd a r haeriad nad oes dim siampl o fewn y Bibl o bobl yn pennodi eu gweinidog eu hunain. Yn wir y mae Mr. James o Birmingham, un o'u pennaethiaid hwy eu hunain yn addef cymmaint a hynny; " Nid oes " medd efe, "yn yr hanes ysprydoledig unrhyw fan, lle y dywedir ddarfod i Eglwys ethol ei Bugail." Buasai dyn yn meddwl y buasai y cyfryw addefîad yn peri iddynt yn naturiol ymwrthod a'r clull dan sylw. Önd beth byúnag, dal atto ef y wnant, er gwaethaf pawb. Hwyrach y diolcha yr Ymneillduwŷr i ni os ceisiwn eu cynnorthwyo yn hyn o beth. Y maent yn awyddus iawn am Ysgrythyr i brofi pob peth; dygwn ninnau Ysgrythyrau addas i gefnogi eu pwngc a'u harferiad yraa. Dywedir wrthym (Barnwŷr 17) " Yr oedd gwr ieuangc o Bethlehem Judah, o dylwyth Judah, a Lefiad oedd efe; ac efe a ymdeithiai yno. A'r gwr a aeth allan o'r ddinas o Bethlehem Judah, i drigo pa le bynnag y caffai le; ac efe a ddaeth i fynydd Ephraim i dŷ Micah. A Micah a ddywed- odd wrtho, Trig gyd â mi, a bydd i mi yn dad ac yn Offeir- iad, a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob blwyddyn, a phâr o ddillad, a'th luniaeth. A'r Lefiaid a fu foddlawn i aros gyd âg ef; a Micah a urddodd y Lefiad, a'r gwr ieuangc fu yn Offeiriad iddo." Gallai dyn feddwl bod " yspryd yr oes " ar waith y pryd hwnnw. Yr oedd y gwr ienangc yn ymorol am le; beth yn fwy cyffredin ? Yr oedd Micah yn ymorol am Weinidog,— pwy addasach na Lefiad ? Teimlodd Micah briodoldeb y pennodiad, ac ymfalchiodd o'r herwydd. " Yn awr y gwn." ebai efe, "y gwna yr Arglwydd ddaioni i mi; gan fod