Skip to main content

BANER Y GROES. Rhif. 10. MEDI, 1855. Cyf. 1. 3ílf)aç$orfteíMtau lEglfogs Uoegr. PEDystyriem ni banes hen Eglwys y wlad hon, caem weled bod ganddi ddigon o achos i ymffrostio o herwydd yr an- rhydedd nèillduol a roddwyd arni rhagor Eglwysi eraill. Nid anfuddiol fyddai galw sylw ein darllenwŷr at rai pethau, ym mha rai y gwelodd Duw yn dda ei dyrchafu felly, fel y tuedder eu calonnau i ddíolch iddo am ei gariad yn eu gosod mewn cymmundeb â'r unrhyw Eglwys, ac i werthfawrogi eu breintiau trwy ymlynu yn ffyddlonach wrthi rhagllaw. Ymddengys bod yr hen grefydd—yr hon a ddygasai ein hynafiaid o'r dwyrain, sef Derwyddiaeth, wedi ei chadw yn burach yma nâg braidd mewn un wlad arall dan haul. Tra yr oedd cenhedloedd eraill yn gyffredin wedi rhedeg i eilun- addohaeth brwnt, cadwodd y Cymru yn ffyddlon y wybod- aeth o un Duw, arferasant ddefodau moesol, a disgwyüent am Iachawdwr wedi ei eni o Forwyn. Ac y mae Duw o'i fawr drugaredd yn cymmeradwyo'r cyfryw ymddygiad, trwy ei bendithio yn gynnar ac yn helaeth â rhagorfreintiau Cristionogol. 1. Plannwyd yr Eglwys ymhlith y Cymry yn fore iawn, sef oddeutu y flwyddyn 58, dim ond pum mlynedd a'r hugain ar ol offrymiad yr Aberth mawr! a dim ond deuddeng mlynedd ar ol i'r Apostolion droi oddi wrth yr Iuddewon at y cenhedloedd! Y mae yn debyg iawn fod Bran wedi clywed St. Paul ei hun yn pregethu Crist, oblegid yn ol amseriad Eusebius a Jerome, daeth yr Apostol i Rufain yn y flwyddyn