Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BANER Y GROES. Rhif. 8. GORPHENHAF, 1855. Cyf. 1. î&íolfotf) CSforageiŵ, Y mae yr arferiad i wrageâd ddyfod idalu diolch cyhoeddus yn yr Eglwys ar ol esgor plant yn ddefod weddus a thra hen—wedi ei sylfaenu, mae'n debyg ar siampl y Forwyn fendigaid yn ymddangos yn y Deml ar ol cyflawni dyddiau ei phuredigaeth. Y mae gwasanaeth neillduol i'r diben hwn wedi cael lle er yn fore iawn yng ngwahanol Lyfrau Gweddi yr Eglwys. Y mae ein Ffurf bresennol ni yn debyg iawn i'r hyn a arferwyd yn y wlad hon gannoedd o flynyddoedd cyn y Diwygiad; yn wir y mae y rhan olaf yr un fath yn union. Yn y dechreuad yr oedd y gwahan- iaeth; oblegid yn lle y Psalmau a arferir gennym ni, pen- nodid gynt y 121ain, Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd, ar 128ain, Owyn ei fyd pob un sydd yn ofni'r Arglwydd. Nid ein diben presennol, beth bynnag, ydyw manylu ar natur a chynnwysiad Trefn y Diolwch, eithr ceisio egluro rhywfaint ar rai o'r Rubricau ag sydd yn awr yn lled dywyll. Yn gymmaint ag mai nid Eglwys Newydd a blannwyd ar amser y Diwygiad, ac na chyfansoddwyd chwaith yr un Llyfr Gwasanaeth newydd, eithr yn unig adgyweirio y naill a'r llall, felly lle yr oedd arferion i barháu fel o'r blaen, ni thybiodd y Diwygwŷr yn angenrheidiol osod cyfarwyddyd newydd neu gyflawn o'u plegid. Yr oedd yr Offeiriaid a'r bobl yn eu deall yn burion ar y pryd, fel ag yr ydym ninnau yn gwybod fyth bod y Psalmau i gael eu Cy». 1. i