Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BANER Y GROES. Rhif. 6. MAI, 1855. Cyf. 1. Ẅìŵu'r Jfótetrfo. Y mae'r Eglwys yn ymddwyn yn dyner, parchus, a phryd- ferth iawn gyd â golwg ar ei meirw. Nid yw yn eu golygu fel yn ymddattod o'i chymmundeb hi yn awr angau; ond yn unig fel yn cael eu symmud o un cyfiwr i un arall— llawer iawn gwell. " Ein brawd hwn"—"ein chwaer hon," yw ei hiaith uwchben pob aelod a ollyngir i'r bedd. Er didoli yr enaid a'r corph oddi wrth eu gilydd, ni ddidolir mo'r naill na'r llall oddi wrth Gorph dirgeledig Críst. Y mae'r meirw yn frodyr a chwiorydd i ni fyth. Ai meinc a ddyweda6om ? Na, dechreu byw mewn gwirionedd y maent yn awr. Am hynny cyfrifa'r Eglwys y dyddiau ar ba rai yr archwaethodd y Saint angau fel "Dyddiau eu Genedig- aeth"—a chofrestrir hwynt yn ofalus yn ei Chalendar—a phob tro y dychwel y rhai hyn y naill ar ol y llall yn nhrefn y flwyddyn, coffhêir hwynt wrth Allor Duw, fel rhau o'r gymdeithas fawr—fel rhai yn disgwyl am danom ni, heb ba rai ni pherffeithir monynt. (Heb. xi. 40.) A ninnau, yr ochr yma, a hiraethwn am ail-gýfarfod â hwythau;— a weddi'wn ar i Dduw " gyflawni ar fyrder nifer ei etholed- igion, a phrysuro ei deyrnas, modd y gallom ni, gyd â'r rbai oll a ymadawsant â'r byd mewn gwir ffydd ei Enw bendigedig, gaffael i ni ddiwedd perffaith, a gwynfyd yng nghorph ac enaid, yn ei ddidrangc a'i dragywyddol ogon- iant." Mor wahanol yw iaith ac ymddygiad yr Hereticiaid ym- neillduol—" Allan o olwg, allan p feddwl," ydyw syniad eu calon hwy gyd â golwg ar eu meirw. Cyn gynted ag y cuddir hwynt dan y dywarchen, golygant bob perthynas i Cyf. 1. *