Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BANER Y GROES. Rhif. 5. EBRILL, 1855. Cyf. 1. Spmmor p îBíooMatnt. Wel, y mae wedi dyfod ; adeg fwyaf difrifol y Garawys; a dyma ni yn deehreu ar Wythnos y Grog! Ond a ydym ni wedi gwneuthur rhywfaint o waith y Garawys? Y mae dros bum' wythnos o hono wedi myned heibio, byth i ddychwelyd mwy. Oud y mae gennym un wythnos etto, a dim ond un. Cadwn honno fel y dylem. Ond pa fodd, meddwch, y cadwn hi? Nid allaf ymprydio, o herwydd fy iechyd; ac ni ddylwn esgeuluso fy ngorchwylion bydol, o herwydd fy nheulu. Gall hynny fod; ond onid oes gen- nyeh ryw bechod hynod y gellwch ei crchfygu? Onid ydych un amser yn ddig, neu yn genfigennus, neu yn dd'iog ? Darostyngwch a marweiddiwch y cyfryw wyniau. Ond gyd â golwg ar ymprydio, a ydych chwi yn sicr nad ellwch wneud dim? Mi a adroddaf i chwi stori wir ar y pen hwn. Yr oedd rhyw wreigan dlawd mewn tref fach yn Lloegr wedi hel digon o arian i gadw shop fechan, ar yr hon y gallai hi ond prin fyw. Yr oedd cymmydoges iddi yn dlottach fyth, a chan nad oedd ganddi ond un gown ar ei helw, yr oedd yn gywilydd ganddi fyned i'r Eglwys yn hwnnw. Nid oedd gan y shopwraig fodd i brynu gown newydd iddi hi; ond dechreuodd ystyried a oedd rhywbeth y gallai hi wneud y tro hebddo, a dywedodd ynddi ei hun :— "Y mae siwgr yn fy nhè yn wir yn ei wneud yn felusach, ond nid yw yn angenrheidiol i mi;" felly, gwnaeth y tro hebddo, a dododd yr arian o'r neilldu, ac ym mhen ychydig wythnosau, medrodd brynu gown newydd i'w chymmyd- oges dlawd. Y fath wersi difrifol a ddygodd yr Eglwys o'n blaen, er y Cyf. 1. ' v